Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, yn dweud bod Cynllun Rwanda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “anghyfreithlon, anfoesol ac annynol”.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “hollol hyderus bod Rwanda yn saff”, yn ôl Ysgrifennydd Gwlad Cymru ar ôl i Fil Rwanda gael ei basio neithiwr (nos Lun, Ebrill 22).

Bydd y Bil yn dod yn gyfraith ar ôl i Dy’r Arglwyddi roi’r gorau i’w gwrthwynebiad.

Mae’r cynlluniau i yrru ceiswyr lloches i Affrica wedi cael eu beirniadu gan y gwrthbleidiau, ac elusennau sy’n cefnogi ffoaduriaid.

Fore heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 23), mae pump o bobol wedi marw wrth geisio croesi’r Sianel o Calais, gan gynnwys plentyn saith oed.

Dadl Llywodraeth y Deyrnas Unedig ydy y bydd y cynllun yn annog pobol i beidio croesi o Ffrainc i Dover mewn cychod, ac yn lleihau niferoedd y “mewnfudwyr anghyfreithlon”, fel mae Llywodraeth San Steffan yn eu galw nhw.

Yn hytrach, maen nhw’n dadlau y bydd cynllun Rwanda yn eu hannog nhw i ddefnyddio “ffyrdd cyfreithlon” i ddod o hyd i loches yng ngwledydd Prydain.

“Dw i’n croesawu bod e wedi pasio; mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n dad-annog pobol i ddod yma drwy ffyrdd anghyfreithlon,” meddai David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Fynwy.

“Fel gwlad, rydyn ni’n croesawu unrhyw un sy’n dod yma drwy’r ffyrdd iawn, ond dydyn ni ddim yn gallu derbyn pobol sy’n dod yma ar longau bychain ac sy’n peryglu eu bywydau ar yr un pryd.

“Felly, dw i’n croesawu’r ffaith bod Tŷ’r Arglwyddi wedi caniatáu i’r Bil basio.

“Mae’n rhaid i fi dynnu sylw at y ffaith bod y Llywodraeth Lafur yn y Senedd yn annog pobol i ddod yma drwy fesurau fel caniatáu i rai ceiswyr lloches gael mynediad at yr Incwm Sylfaenol, ac wedi gofyn i fi fel Ysgrifennydd Cymru ganiatáu iddyn nhw gael cyngor cyfreithlon yn rhad ac am ddim er fy mod i ddim wedi newid y ddeddf i ganiatáu i hynny ddigwydd.

“Does dim cynllun o gwbl gan Lafur, ac os ydyn nhw’n ennill yr etholiad, rydyn ni’n gallu disgwyl i lawer mwy o bobol ddod yma ar longau bychain.”

David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

‘Gwlad saff’

Mae elusennau ac ymgyrchwyr wedi codi pryderon am ddiogelwch yn Rwanda, ac fe wnaeth y Goruchaf Lys farnu y llynedd fod y cynllun yn un anghyfreithlon.

“Yn amlwg, rydyn ni wedi edrych mewn i’r sefyllfa yno ac yn hollol hyderus bod Rwanda yn wlad saff ac mae’r Cenhedloedd Unedig yn anfon pobol i Rwanda hefyd,” meddai David TC Davies wedyn.

“Does dim rhaid i unrhyw un ddod yma drwy ffordd anghyfreithlon, rydyn ni’n gallu caniatáu i bobol ddod os ydyn nhw o fewn y rheolau.

“Ond dydyn ni ddim yn gallu caniatáu i ddynion ifainc ddod yma ar longau bychain, wedi talu smyglwyr pobol i ddod yma. Dyw e ddim yn dderbyniol o gwbl.

“A’r mwyafrif mawr ohonyn nhw yn ddynion ifanc, nid teuluoedd ydyn nhw, neu ferched. Dw i wedi bod yn y gwersyllfeydd fy hun i weld hynny, dw i wedi gweld gyda fy llygaid fy hun bod hynny’n wir.”

‘Anghyfreithlon, anfoesol, annynol’

Cyn i’r Bil gael ei basio ddoe, bu’n symud yn ôl ac ymlaen rhwng Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn sgil diwygiadau a gwrthwynebiad gan yr Arglwyddi.

Fe wnaeth y trafod a’r pleidleisio bara wyth awr neithiwr, ac yn y diwedd fe wnaeth yr Arglwyddi ildio i ddymuniadau’r Llywodraeth, a chafodd y Bil ei basio gyda chefnogaeth 312 o Aelodau Seneddol, a 237 yn gwrthwynebu.

Yn ôl Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, bydd yr awyrennau cyntaf yn gadael ymhen deg i ddeuddeng wythnos.

Hywel Williams

‘Anghyfreithlon ac anfoesol’

Fe wnaeth Plaid Cymru, y Blaid Lafur a’r SNP bleidleisio yn erbyn y Bil.

Wrth ymateb heddiw, dywed Hywel Williams, Aelod Plaid Cymru Arfon, ei fod yn “gynllun anghyfreithlon, anfoesol, sy’n cael ei wneud ar gyfer rhoi penawdau papur newydd i’r llywodraeth o flaen Etholiad Cyffredinol”.

“Dw i ddim yn meddwl y gwneith o wneud unrhyw wahaniaeth mewn gwirionedd i’r nifer o bobol sy’n dod dros y môr,” meddai wrth golwg360.

“Mae yna bump o bobol wedi boddi bore yma, gan gynnwys plentyn saith oed.

“Dydy pobol sydd mewn ffasiwn gyflwr eu bod nhw’n barod i fentro eu plant mewn cwch mor fregus efo cymaint o bobol arni, ddim am feddwl peidio gwneud hyn achos efallai rywdro neu’i gilydd yn y dyfodol, ‘Ga’i fy ngyrru i Rwanda’, er bod hynna’n annhebygol.

“Mae’r llywodraeth yn cyflwyno hyn fel bod o’r ateb i’r bobol sy’n dod dros y môr.

“Mae yna ateb llawer iawn symlach a llawer iawn mwy cyfiawn, sef agor y llwybr cyfreithlon uniongyrchol i bobol geisio am loches yma, wedyn penderfynu ar eu hachosion nhw’n gyflym a gyrru’r rhai sydd heb achos yn ôl i le ddaethon nhw.

“Mae o’n gwbl annynol hefyd; does yna ddim ffasiwn beth â ffoadur anghyfreithlon. Os ti’n cyrraedd gwlad, ti’n gyfreithlon.

“Maen nhw wedi dyfeisio’r categori yma, ac mae hynna’n rhoi caniatâd iddyn nhw wneud yr hyn a fynnon nhw.”

‘Cynsail beryglus’

Ychwanega Hywel Williams hefyd fod y Bil yn gosod cynsail “eithaf peryglus”, sy’n golygu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “tra-arglwyddiaethu” dros unrhyw lys a’r system gyfreithiol.

“Yn fwy cyffredinol, mae o’n bryderus bod y Goruchaf Lys wedi dweud bod o’n anghyfreithlon a bod y llywodraeth yn penderfynu creu mesur sy’n dweud, “Rydyn ni’n dweud bod Rwanda’n wlad ddiogel, felly mae hi yn wlad ddiogel”.

“Efallai eu bod nhw’n dweud bod bananas yn tyfu ym Methesda, ond dydy o ddim yn golygu eu bod nhw.

“Maen nhw’n llywodraeth sydd ar y dibyn, maen nhw’n dod â hwn i mewn a gwario’r holl bres, ac mae Llafur wedi dweud y byddan nhw’n ei ddileu o.”

‘Hollol hurt’

Cytuna Anna McMorrin, Aelod Seneddol Llafur Gogledd Caerdydd, ei fod yn “brosiect gwagedd”.

“Yn amlwg, dydy e ddim yn mynd i wneud dim byd o’r hyn mae’n dweud mae e am ei wneud – dyw e ddim am stopio’r cychod,” meddai wrth golwg360.

“Dyw e ddim am ddelio â mewnfudo, ac mae’n mynd i gostio mwy na £2m fesul ffoadur, sy’n hollol hurt.”