Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yw’r unig fwrdd oedd wedi pleidleisio heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 23) yn erbyn cau dwy o ganolfannau’r Ambiwlans Awyr yng Nghymru.

Mewn trafodaeth ymysg Cydbwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a’r byrddau iechyd, mae mwyafrif ar y pwyllgor wedi pleidleisio dros gau’r canolfannau.

Bydd canolfannau Ambiwlans Awyr y Trallwng a Chaernarfon yn cau’n swyddogol ar ôl 2026.

Fe wnaeth yr holl fyrddau iechyd bleidleisio o blaid cymeradwyo argymhellion un i bedwar, oni bai am Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Pleidleisiodd yr holl fyrddau iechyd o blaid cymeradwyo argymhellion 5 a 6.

Yr argymhellion

Roedd yr Adroddiad Terfynol ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ar Fawrth 19 yn cynnwys pedwar argymhelliad, sef:

  1. Cyfuno Gwasanaethau Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys o’r Trallwng a Chaernarfon i un safle yng ngogledd Cymru.
  2. Sicrhau bod yr elusen yn dod o hyd i leoliad addas ar gyfer ei gweithrediadau, fel gafodd ei awgrymu yn Adroddiad Adolygu’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS).
  3. Dylai EMRTS a’r elusen greu cynllun ar y cyd i gynnal gwasanaethau ledled Cymru wrth iddyn nhw symud i ganolfan newydd, ddylai fod yn rhan o gynlluniau’r Pwyllgor.
  4. Datblygu cynnig ar gyfer gwasanaethau meddygol arbenigol ar y ffyrdd mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell, wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor.
  5. Mae’r Pwyllgor yn cefnogi ymarfer gwersi gafodd eu dysgu o’r broses adolygu ac ymgysylltu i helpu i lywio gwaith y Cyd-bwyllgor Comisiynu (JCC) yn y dyfodol.
  6. Mae’r Pwyllgor yn cytuno i dderbyn adroddiadau cynnydd rheolaidd ar gyflawni cerrig milltir y cynllun gweithredu, a gwireddu buddion.

Cefndir

Fe wnaeth adolygiad o wasanaeth yr Ambiwlans Awyr yng Nghymru argymell cau’r canolfannau yn y Trallwng a Chaernarfon, a symud hofrenyddion i safle newydd yn y gogledd.

Nod yr adolygiad, gafodd ei arwain gan Brif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, oedd gwella’r gwasanaeth fel bod modd ymateb i fwy o alwadau brys.

Roedd yr adolygiad yn ffafrio cynlluniau i agor canolfan newydd ar safle ger Rhuddlan yn y gogledd-ddwyrain, ond yn ôl ymgyrchwyr bydd pobol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn dioddef yn sgil cau’r canolfannau presennol.

Maen nhw’n ofni y byddai effaith ar amseroedd ymateb pe bai’r canolfannau presennol yn cau.

Yn ôl Stephen Harrhy, y Comisiynydd, byddai symud i Ruddlan yn golygu trin 139 o gleifion ychwanegol bob blwyddyn.

Partneriaeth yw’r Ambiwlans Awyr, gyda’r elusen yn talu am ryw ddau draean o gostau’r gwasanaeth, a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn talu am y traean arall.

Y Gwasanaeth Iechyd sy’n cyflogi’r meddygon sy’n teithio ar yr hofrenyddion, ac yn talu am yr offer maen nhw’n ei ddefnyddio.

Elusen Ambiwlans Awyr Cymru sy’n talu am yr hofrenyddion, y peilotiaid a’r canolfannau awyr, ac mae angen £11.2m y flwyddyn ar yr elusen i gynnal y gwasanaeth.

‘Chwarae teg i Bowys’

Dydy o “ddim yn syndod” fod Powys wedi pleidleisio yn erbyn yr argymhellion, yn ôl Elwyn Vaughan, cynghorydd Plaid Cymru dros ardal Glantwymyn ym Mhowys.

“Chwarae teg i Bowys am sefyll yn gadarn ac am adlewyrchu barn a phryderon didwyll pobol y sir yma,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n gwybod fod yna nifer o fyrddau wedi gofyn cwestiynau perthnasol, ac yn arbennig efo argymhelliad pedwar – y gydnabyddiaeth fod yna ddiffyg yn y cefn gwlad – a bod angen felly darparu gwasanaeth newydd, ‘bespoke service‘, i’r llefydd hynny.

“Dw i’n croesawu’r ffaith fod nifer o fyrddau iechyd wedi lleisio’u pryder ac eisiau mwy o fanylion am hynny.

“Ond y cwestiwn ydy, beth mae’r gwasanaeth newydd yn mynd i’w olygu?

“Does yna ddim cig ar yr asgwrn, dim costau, dim cynllun o gwbl, ac mae angen y sicrwydd yna yn ei le cyn gynted â phosib.

“Dylai fod cau canolfannau a’r gwaith cynllunio hynny ddim digwydd tan bod yna gadarnhad o beth ydy’r alternative.

“Y peryg ydy y byddan nhw wedi bwrw ymlaen gyda chau’r ddwy ganolfan heb ddatblygu unrhyw gynllun newydd.

“Rydan ni eisiau mwy o gig ar yr asgwrn, a hynny ar fyrder.”

Bydd y Pwyllgor bellach yn mynd ati i ychwanegu manylder a chynllunio ar gyfer argymhelliad 4 cyn cyfarfod eto yn yr hydref.

‘Mynd yn groes i fuddiannau cymunedau’

Yn ôl gwleidyddion blaenllaw Plaid Cymru yn y gogledd, mae’r penderfyniad “yn mynd yn groes i fuddiannau cymunedau ar draws gogledd-orllewin a chanolbarth Cymru”.

Daw’r sylw mewn datganiad ar y cyd gan Liz Saville Roberts, Mabon ap Gwynfor, Rhun ap Iorwerth, Siân Gwenllian a Hywel Williams.

“Rydym ymhell o fod yn sicr na fydd yr ardaloedd sydd mewn perygl o’r cynlluniau hyn megis Pen Llŷn, de Meirionnydd, Ynys Môn, a chanolbarth Cymru yn cael eu gadael gyda gwasanaeth arafach ac is-safonol,” medden nhw.

“O ystyried rhai o’r cwestiynau am y data sy’n cael ei ddefnyddio fel sail i’r cynnig, nid yw’n afresymol i bobol fod â phryderon difrifol y bydd gennym wasanaeth sylweddol is wrth gau safleoedd Caernarfon a’r Trallwng.

“Nid ydym ychwaith wedi cael digon o wybodaeth am sut fyddai gweithredu’r argymhellion hyn yn edrych, a’r camau a fyddai’n cael eu cymryd, er enghraifft, i ddatblygu’r gwasanaeth cerbyd y cyfeirir ato yn argymhelliad 4.

“Mae Llais wedi ei gwneud yn glir bod angen mwy o amser a gwybodaeth i ddod i benderfyniad gwybodus, ac felly mae penderfyniad y pwyllgor i wthio’r cynigion drwodd heb roi digon o amser i fyrddau iechyd ystyried effaith yr argymhellion yn peri pryder ac yn siomedig.

“Nid ydym wedi cael tystiolaeth rymus a fyddai’n ein darbwyllo na fydd cau canolfannau Caernarfon a’r Trallwng yn arwain at wasanaeth llawer gwaeth.

“Mae’n druenus iawn bod barn clinigwyr rheng flaen EMRTS, ymgyrchwyr, a’r gwrthwynebiad llethol gan y cyhoedd ehangach wedi’u diystyru’n ddiannod.

“Dylid gwerthfawrogi nad yw elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn ddim byd heb gefnogaeth y cyhoedd.

“Nid dyma ddiwedd y frwydr.

“Byddwn yn parhau i weithio gydag ymgyrchwyr lleol i archwilio pob opsiwn posibl i herio’r penderfyniad byr-olwg hwn sy’n cael ei yrru’n ganolog.

“Ni ddylai pobol sy’n byw yng ngogledd-orllewin a chanolbarth Cymru orfod dioddef canlyniadau mesuradwy gwaeth yn seiliedig ar ddata diffygiol nad yw wedi’i ddilysu’n annibynnol.”

‘Siomedig a thorcalonnus’

“Siomedig a thorcalonnus yw’r newyddion heddiw am gau canolfan Ambiwlans Awyr Dinas Dinlle, Caernarfon,” meddai Llio Elenid Owen, Cynghorydd y Groeslon.

“Mae’r gymuned gyfan wedi gweithio’n ddiflino i gyfleu cryfder y teimlad am y ganolfan yn fy Ward sy’n gwasanaethu Gwynedd gyfan.

“Byddwn yn colli adnodd gwerthfawr, swyddi ac arbenigedd o’r ardal.

“Mae heddiw’n ddiwrnod trist i’r gymuned, i’r ardal ac i Wynedd.”