Mae Cynghorydd Powys ymhlith y pedwar ymgeisydd i fod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd nesaf Dyfed-Powys.

Ian Harrison, Cynghorydd Powys dros Gegidfa, yw’r ymgeisydd Ceidwadol yn yr etholiad.

Bydd e, ynghyd â Philippa Thompson (Llafur) a Justin Griffiths (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn herio Dafydd Llywelyn (Plaid Cymru), deilydd presennol y swydd.

Fe fu Dafydd Llywelyn, gafodd ei fagu ym Meifod, yn Gomisiynydd ers 2016.

Cyngor Ceredigion yw’r awdurdod sy’n cynnal yr etholiad yn 2024 ar gyfer Dyfed-Powys.

Eifion Evans, Prif Weithredwr y Cyngor, yw’r swyddog etholiad ar gyfer ardal heddlu Dyfed-Powys, ac mae’n gyfrifol am y ffordd y caiff yr etholiad ei gynnal.

Newid y drefn

Bydd rhai newidiadau i’r ffordd y caiff yr etholiad ei gynnal y tro hwn.

Cyn yr etholiad, mae pleidleiswyr yn cael eu hatgoffa o’r angen i ddod â cherdyn adnabod ffotograffig – megis pasbort neu drwydded yrru – gyda nhw i orsafoedd pleidleisio, o ganlyniad i newid yn y gyfraith.

Newid arall yw’r system bleidleisio, fydd yn gweld y comisiynwyr yn cael eu hethol drwy’r drefn ‘cyntaf i’r felin’ am y tro cyntaf.

Ym mhob etholiad blaenorol ers 2012, cafodd y bleidlais sengl drosglwyddadwy (STV) ei defnyddio, gyda phobol yn pleidleisio dros eu prif ddewis a’u hail ddewis.

Mae’r Comisiynydd yn gyfrifol am ddwyn yr heddlu i gyfrif, penodi Prif Gwnstabliaid a’u diswyddo os oes angen, gosod cyllidebau’r heddlu, a’r dreth gyngor y bydd angen i bobol ei thalu tuag at blismona.

Mae’r Comisiynydd hefyd yn pennu blaenoriaethau’r ardal leol, yn goruchwylio sut mae mynd i’r afael â thorcyfraith, yn anelu i sicrhau bod yr heddlu’n darparu gwasanaeth da, ac mae disgwyl i’r Comisiynydd gyfarfod â’r cyhoedd ac ymgynghori â nhw’n rheolaidd hefyd er mwyn gwrando ar eu barn am blismona.

Dylai’r etholiadau gael eu cynnal bob pedair blynedd, ond cafodd yr etholiad diwethaf ei gynnal fis Mai 2021, ar ôl caei ei ohirio fis Mai 2020 o ganlyniad i’r pandemig Covid-19.