Y Preifat Cheryl James
Cafodd milwyr dan hyfforddiant ym Marics Deepcut eu gadael i “redeg o gwmpas” yn cymryd cyffuriau anghyfreithlon ac yfed o dan oed, clywodd cwest i farwolaeth milwr ifanc o Langollen heddiw.
Cafwyd hyd i’r Preifat Cheryl James, 18, gyda bwled yn ei phen yn safle hyfforddiant y fyddin yn Surrey ar 27 Tachwedd, 1995.
Dywedodd y swyddog Sarah Ditchfield, a gafodd ei hyfforddi ar yr un pryd a Cheryl James, bod y safle mewn “anhrefn” ac nad oedd digon o oruchwyliaeth o filwyr ifanc.
Dywedodd wrth Lys y Crwner yn Woking, Surrey: “Roedden ni’n bobl ifanc 17 oed gydag arian yn ein pocedi, doedd dim byd arall i ni.
“Roedden ni’n 17, roedd ’na far, roedden ni’n gallu cael diodydd – dyna be naethon ni.”
Ychwanegodd ei bod hi a’r milwyr ifainc eraill – gan gynnwys y Preifat Cheryl James – wedi cymryd cyffuriau anghyfreithiol mewn clwb nos.
‘Eisiau gadael y fyddin’
Mae cyn-filwr arall fu’n cael hyfforddiant yn Deepcut, Marina Fawcett, hefyd wedi dweud wrth y cwest bod Cheryl James yn daer i adael y fyddin ac wedi gwneud sylwadau am saethu ei hun yn ei phen. Ond dywedodd Marina Fawcett nad oedd wedi cymryd y peth o ddifrif am ei bod wedi gwneud jôc am y peth.
Ychwanegodd bod Cheryl James yn berson hapus a byrlymus ac nad oedd dim i’w weld o’i le y bore cyn ei marwolaeth.
Roedd Cheryl James yn un o bedwar o filwyr ifanc fu farw yn y barics dros gyfnod o saith mlynedd. Mae’r cwest newydd i’w marwolaeth wedi clywed tystiolaeth fforensig sy’n awgrymu nad oedd hi o bosib wedi lladd ei hun.
Mae’r cwest hefyd yn ymchwilio i dystiolaeth sy’n awgrymu y gallai hi fod wedi cael ei hecsbloetio’n rhywiol gan rengoedd uwch cyn ei marwolaeth.
Mae’r cwest yn parhau.