Mae cyn-athro yn brolio’i fuddugoliaeth, ar ôl i’r Ddraig Goch gael ei chodi ar un o adeiladau cyhoeddus amlycaf Sir Fynwy, ar draul baner yr Undeb, gafodd ei gostwng.
Fe fu Peter Williams yn ffraeo â Neuadd y Sir yn Nhrefynwy ers mis Mehefin y llynedd, ar ôl gweld baner yr Undeb heb fod y Ddraig Goch yn agos iddi.
Ond cafodd y cyn-ddirprwy brifathro ei gythruddo ymhellach ar Fawrth 1 eleni, pan sylweddolodd e nad oedd yr adeilad, sy’n cael ei redeg gan y Cyngor fel amgueddfa, yn dilyn yr hyn roedden nhw wedi dweud wrtho oedd yn bolisi ganddyn nhw, sef cyhwfan y Ddraig Goch ar Ddydd Gŵyl Dewi.
“Mae’n warthus nad oedd baner Cymru’n cyhwfan ar Ddydd Gŵyl Dewi,” meddai, gan ychwanegu mai’r esgus am beidio hedfan baner genedlaethol y Ddraig Goch ar ddiwrnod ein nawddsant oedd storm o genllysg a pholyn gwan.
Canllawiau’n berthnasol i Loegr yn unig
Yn ystod ei ffrae â’r atyniad, sy’n cael ei redeg gan wasanaeth hamdden Mon Life Cyngor Sir Fynwy, fe wnaeth Peter Williams ddarganfod eu bod nhw wedi bod yn dilyn canllawiau cyhwfan baneri Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n berthnasol i Loegr yn unig.
Bellach, mae baner Cymru wedi bod yn cyhwfan dros Neuadd y Sir, sy’n 300 oed, ers i Peter Williams gwyno ddiwethaf a chysylltu â’r Cynghorydd Llafur Catherine Fookes (Trefynwy) a Mary Ann Brocklesby, arweinydd y Cyngor.
“Roedden nhw’n gefnogol iawn ac yn ddigalon ynghylch y sefyllfa, ac mae baner Cymru bellach yn cyhwfan yn falch ar adeilad Neuadd y Sir yn Nhrefynwy.”
Fe wnaeth e gwestiynu absenoldeb baner Cymru o adeilad rhestredig Gradd I fis Mehefin y llynedd, a dywedwyd wrtho fe fod rhaid cyhwfan baner yr Undeb uwchlaw baner Cymru, a bod “cyflwr y polyn” yn golygu nad oedd hynny’n bosib.
Fe wnaeth staff Neuadd y Sir e-bostio copi o’r protocol roedden nhw’n ei ddilyn, sef UK Government: Flying Flags; A plain English Guide at Peter Williams.
Dywed Peter Williams ei fod e wedi tynnu sylw at y ffaith fod y protocol yn nodi ei fod yn berthnasol i Loegr, a dywed ei fod e wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru erbyn mis Medi y llynedd nad oedden nhw wedi cyhoeddi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol ar gyhwfan baneri o’u hadeiladau.
“Dw i heb gael ateb o ran pwy sy’n gyfrifol am gyflwyno canllawiau Seisnig yma yng Nghymru,” meddai’r gŵr oedd wedi symud gyda’i wraig i Sir Fynwy fis Tachwedd 2020 ar ôl dysgu am fwy na 30 mlynedd yng ngorllewin canolbarth Lloegr.
“Mae [Trefynwy] hanner ffordd rhwng ein merch yn Swydd Gaerwrangon a’n mab yng Nghaerdydd, ac yn ardal braf i fyw, ac roedden ni eisiau dychwelyd i Gymru,” meddai, ac yntau’n hanu o Aberdâr yn wreiddiol.
Ond dywed ei fod yn gofidio bod cyhwfan baner yr Undeb yn symptom o ddiffyg parch at ddiwylliant Cymru yn yr ardal.
“Symudon ni yn ystod Covid, ond wrth i bethau ddod yn ôl i drefn, dechreuais i sylweddoli bod gan yr adeilad cyhoeddus Jac yr Undeb arno, ac y dylai fod ganddo fe faner Cymru.
“Ges i’r argraff yn Nhrefynwy fod yna ymdeimlad gwrth-Gymraeg, megis llythyron yn y papurau newydd yn cwyno am yr iaith Gymraeg neu ddwyieithrwydd.”
Ymateb y Cyngor
“Ar ôl adborth a sylwadau gan y gymuned ynghylch cyhwfan baner Cymru, rydym yn falch o wneud hynny am y misoedd i ddod yn Neuadd y Sir,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy.
“Byddwn ni’n adolygu’r opsiynau i ystyried gosodiadau baneri a threfniadau’r dyfodol.”