Nid oes gan fyrddau iechyd y “trefniadau rheoli” i sicrhau nad yw gwaith preifat yn effeithio ar y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru (GIG), yn adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Dywedodd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, na all byrddau iechyd sicrhau nad oes rhai cleifion preifat yn “neidio’r ciw” ar restrau aros y GIG.

Mae’n nodi hefyd y gallai rhai cleifion preifat gael eu trin yn gynt gan y GIG am eu bod wedi talu am ymgynghoriad preifat cyn ymuno â rhestr aros y GIG.

‘Mwy o ganllawiau’

 

Yn ôl data’r archwiliad, mae 98% o ymarfer preifat mewn cyfleusterau’r GIG yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos.

Er bod cyfran o hyn yn digwydd mewn sesiynau penodedig i ymarfer preifat, mae’r archwiliad yn dangos bod nifer fechan o achosion yn cael eu cynnal yn ystod cyfnodau oedd wedi eu neilltuo at waith y GIG.

Am hynny, “mae angen rhoi mwy o ganllawiau cadarn ar waith i helpu staff y GIG i gael dealltwriaeth well o sut y dylid trin cleifion preifat pan fyddant yn dod i’r GIG am driniaeth,” meddai Huw Vaughan Thomas.

‘Ffactorau pwysig’

“Dylai’r gwelliannau hyn helpu i sicrhau bod adnoddau’r GIG yn cael eu defnyddio yn gywir a bod holl gostau ymarfer preifat yn cael eu hadennill yn briodol”.

Fe esboniodd fod meddygon ymgynghorol sy’n ymdrin â gwaith preifat yn cynnig cyfle i ennill incwm ychwanegol a ellir ei ail-fuddsoddi yng ngwasanaethau’r GIG.

“Mae’n rhaid rheoli ymarfer preifat yn effeithiol er mwyn sicrhau nad yw’n rhoi straen ar adnoddau’r GIG,” ychwanegodd yr Archwilydd.