Bydd S4C yn darlledu rhaglen arbennig heno (nos Lun, Mawrth 25) sy’n adrodd am bryderon trigolion Port Talbot yn dilyn cyhoeddiadau diweddar gan gwmni dur Tata.
Bydd y rhaglen Port Talbot – Diwedd y Dur? i’w gweld am 8 o’r gloch, wrth i drigolion y dref wynebu cyfnod o newid ac ansicrwydd.
Bydd tua 2,000 o weithwyr yn cael eu diswyddo wrth i Tata symud i gynhyrchu dur mewn ffordd fwy llesol i’r amgylchedd.
Cafodd y ffwrneisi golosg ar y safle eu cau yn ddiweddar, ac mae cynlluniau i osod ffwrnais drydan fodern yno, ar ôl degawd o golledion ariannol.
Mae trigolion Port Talbot yn falch o ddweud eu bod nhw’n perthyn i’r dref.
Trwy eu llygaid nhw mae’r rhaglen yn dangos effaith y pryderon am ddyfodol y gwaith dur, a’r diswyddiadau ar fywyd yr ardal hon.
‘Heb waith, mae’r gymuned yn tueddu i chwalu hefyd’
Un sy’n ymddangos yn y rhaglen yw Kelvin Edwards.
Mae’n byw yn ardal Sandfields ym Mhort Talbot, a bu’n gweithio ar y safle fel asiwr.
Symudodd e i’r dref o Lanelli yn 1957, pan oedd yn ddwy oed, ar ôl i’w dad gael swydd yn y gwaith dur.
“Y gwaith dur oedd y cwmni oedd yn cymryd y mwyaf o brentisiaid ymlaen,” meddai.
“Roedden nhw’n cymryd 60 neu 70 prentis bob blwyddyn o leia’.
“Roedden nhw’n cymryd pedwar asiwr bob blwyddyn.
“Roedd pawb mewn cyflogaeth, a doedd dim tlodi.
“Roedd yna wastad waith.
“A dyna’r peth pwysig yn unrhyw gymuned yw bod gwaith gyda chi.
“Heb waith, mae’r gymuned yn tueddu i chwalu hefyd.
“Dwi’n meddwl fod y penderfyniad maen nhw wedi gwneud eleni yn dangos mai hwn yw’r diwedd.
“Yr adrannau maen nhw’n galw’n heavy end – yr ochr drwm, lle mae lot o’r gweithwyr. “Dyna’r adrannau lle mae’r rhan fwyaf o’r gweithlu’n gweithio, a dyna le mae lot o’r swyddi am gael eu colli.
“Yn yr adrannau yma, am bob gweithiwr gwaith dur sy’n cael ei gyflogi gyda Tata, mae o leiaf saith, wyth efallai deg o gontractwyr ynghlwm â’r gwaith.
“Felly, er efallai dweud mai 3,000 neu 4,000 sy’n gweithio i Tata, ar y safle bob dydd allwch chi warantu bod dros 10,000.
“Felly mae effaith y colledion yn mynd i fod lot yn fwy na maen nhw’n cyhoeddi.
“Mae nai gyda fi’n gweithio yna i gontractwyr. Mae e wedi dechrau teulu a newydd ddyweddïo, felly efallai bydd rhaid iddo fe symud i ffwrdd, pwy a ŵyr?”
Tref nad yw heb obaith nac uchelgais
Dirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Dur yw Sioned Jones.
Cafodd yr ysgol ei sefydlu yn ardal Sandfields ym Mhort Talbot yn 2018, a chafodd ei henwi gan ddarpar-ddisgyblion cyn iddi agor ei drysau.
“Mae’n ardal Gymreig iawn,” meddai Sioned Jones.
“Mae disgyblion yr ardal wedi gorfod teithio ar fws am amser hir iawn i gael addysg Gymraeg – reit i dop y cwm yn Ystalyfera.
“Dw i’n meddwl bod y ffaith fod yr ysgol yma ar agor yn Sandfields ym Mhort Talbot yn gwneud y Gymraeg yn rhywbeth dydd i ddydd yn yr ardal, ac yn gwneud yn siŵr bod ein disgyblion yn aros mewn addysg Gymraeg.”
Ac er ei bod yn cydnabod fod effaith colledion swyddi’r gwaith dur “am gael ergyd drom ar y gymuned”, mae hi’n pwysleisio nad yw’n dref heb obaith nac uchelgais.
“Mae enw’r ysgol yn dangos pa mor ganolog ydi dur i hunaniaeth yr ardal – mae’n cyfleu yr hyn sy’n bwysig yn yr ardal,” meddai.
“Mae Port Talbot yn le arbennig iawn, ac mae ei phobol yn arbennig hefyd.
“Yn yr ysgol, dydyn ni ddim yn rhoi gormod o ffocws ar yr hyn sydd i ddod yn yr ysgol ar hyn o bryd, heblaw bod y plant a’u teuluoedd yn dymuno trafod y peth.
“Swyddogaeth yr ysgol ydi rhoi sefydlogrwydd i’r disgyblion a’u teuluoedd, sicrhau balchder yn eu hunaniaeth, a chadw eu huchelgais nhw – a sicrhau bod lle i’r Gymraeg.
“Rydym ni eisiau sicrhau teimlad uchelgais yn y dref a bod modd llwyddo yma.”
- Bydd modd gwylio’r rhaglen ar S4C Clic a BBC iPlayer hefyd.