Doedd gan Llinos Medi, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru dros Ynys Môn, fawr ddim bwriad ymuno â’r byd gwleidyddol tan iddi gael ei pherswadio i ymuno â Chyngor Môn a chael ei hethol yn gynghorydd yn 2013.
Fodd bynnag, fel un sydd wedi’i magu ac sydd bellach yn magu ei phlant ar yr ynys, mae hi eisiau bod yn llais cadarn dros y gymuned yno.
Er iddi gefnogi Plaid Cymru ar hyd ei hoes, doedd hi ddim yn aelod o’r Blaid nes iddi benderfynu sefyll mewn etholiad.
“Felly, mae’r siwrne yma wedi cychwyn i mi gyda Phlaid Cymru,” meddai wrth golwg360.
Ychwanega ei bod wedi “disgyn i mewn” i wleidyddiaeth wedi iddi sylweddoli pwysigrwydd cael pobol gyffredin o gefndiroedd gwahanol yn gwneud penderfyniadau.
“Wnes i erioed yn fy mywyd ystyried bod yn wleidydd o gwbl,” meddai.
Angen aelodau seneddol sy’n “deall Cymru”
Fel ymgeisydd, dywed ei bod hi eisiau gweld gwell dealltwriaeth o’r heriau mae ardaloedd fel Ynys Môn yn eu hwynebu.
“Dw i eisiau uno ein cymunedau ni hefyd,” meddai.
“Mae yna annifyrrwch wedi dod i mewn yn ddiweddar, a dydy pobol Ynys Môn ddim fel yna.
“Mae angen i ni fynd yn ôl i’n gwreiddiau a chofio’r hyn sydd yn bwysig i ni, ac uno’r gymuned fendigedig yma dw i wedi cael fy magu ynddi ac yn magu fy mhlant ynddi.
“Dw i eisiau bod yn llais dros Gymru.”
Gyda newidiadau i ffiniau etholaethol yn golygu y bydd llai o aelodau seneddol yn cynrychioli Cymru yn San Steffan wedi’r etholiad cyffredinol nesaf, dywed fod “angen i’r aelodau seneddol sy’n cael eu hethol dros Gymru fod yn aelodau seneddol sydd yn deall Cymru drwyddi draw”.
“Dw i eisiau gallu gwneud hynny,” meddai.
“Dw i’n andros o bryderus bod llais Cymru yn cael ei wanhau, a hynny am resymau gwleidyddol i’r Blaid Geidwadol gael cadw grym.
“Mae’n hynod o drist, a dyna pam ei bod hi’n bwysig iawn bod Cymru yn anfon mwy o aelodau seneddol nag erioed i San Steffan.
“Mae’n rhaid i ni weithio’n galed iawn i sicrhau bod llais Cymru’n cael ei glywed.”
‘Methu gadael pobol i lawr eto’
Wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi eu bwriad i brynu safle niwclear Wylfa ar Ynys Môn, mae Llinos Medi yn gobeithio y byddan nhw’n gwireddu eu haddewidion.
“Mae Wylfa wedi bod yn un o’r rheiny lle mae trigolion yr ynys wedi cael eu defnyddio fel yo-yo,” meddai.
“Un munud rydan ni yn llaw’r llywodraeth yn meddwl bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd, ac wedyn rydyn ni’n cael ein gollwng unwaith eto.
“Mae’r symudiad o brynu’r safle yn un allweddol, ond ar ddiwedd y dydd rydyn ni yn yr un sefyllfa, ond bod y perchennog rŵan yn y llywodraeth.
“Mae Llywodraeth Prydain, o’r diwedd, wedi mynd trwy eu polisi ynni niwclear nhw, ac yn mynd trwy drafodaethau gyda datblygwyr.
“Felly mae’r camau yn cael eu cymryd, ond eto mae’n rhaid i ni gael sicrwydd pendant achos allwn ni ddim codi gobeithion a gadael pobol i lawr eto.”
Cyfleoedd a chyflog i bobol ifanc
Dywed Llinos Medi fod trafodaethau wedi’u cynnal er mwyn sicrhau na fydd datblygu Wylfa yn dod ar “unrhyw bris” i bobol leol.
“Mae diogelu ein cymunedau ni ar Ynys Môn yn ofnadwy o bwysig, ac mi oedden ni mewn trafodaethau blaenorol wedi rhoi ein marcars pendant i lawr yn ieithyddol, yn gymunedol, ein hetifeddiaeth ni, ein treftadaeth ni, a’n dymuniad ni i greu’r ynys yna rydyn ni eisiau ei gweld,” meddai.
Ychwanega ei bod hi’n bryderus, ar hyn o bryd, ei bod yn ymddangos bod Ynys Môn “yn fodlon cael ei sathru gan unrhyw un”.
“Dim fel yna mae Ynys Môn,” meddai.
Ond dywed ei bod hi’n falch iawn mai’r Cyngor sy’n arwain ar ddatblygu’r porthladd rhydd newydd yno, a hwnnw gerllaw’r cwmni Stena.
“Mae Stena yn ymwybodol o bwysigrwydd y Gymraeg a phwysigrwydd sgilio y genhedlaeth nesaf, a sicrhau swyddi hirdymor,” meddai.
“Mae angen rhoi cyfleoedd i bobol ifanc a theuluoedd gallu byw ar Ynys Môn a chael cyflog da wrth ei wneud o.”