Morlyn Llanw Bae Abertawe
Mae Llywodraeth Prydain wedi cael eu cyhuddo o geisio osgoi dod ag ynni adnewyddadwy i Gymru wrth greu oedi pellach ym mhrosiect morlyn Bae Abertawe.
Fe gyhoeddodd y llywodraeth eu bwriad i gynnal adolygiad annibynnol o ddichonolrwydd ac ymarferoldeb ynni lagwn llanw yng ngwledydd Prydain.
Daw’r cyhoeddiad diweddaraf ddiwrnod yn unig ar ôl i brif weithredwr cwmni Tidal Lagoon Power, sy’n rheoli’r prosiect Abertawe, alw ar Lywodraeth Prydain i benderfynu’r naill ffordd neu’r llall a fyddan nhw’n ymrwymo i’r prosiect.
Ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol nawr wedi cyhuddo’r adolygiad diweddaraf yn dystiolaeth nad yw’r llywodraeth am ymrwymo i brosiectau llanw.
‘Dim diddordeb gan y Torïaid’
Fe fu oedi o flwyddyn eisoes i’r gwaith o godi’r morlyn llanw yn dilyn trafodaethau ynghylch faint o arian cyhoeddus fyddai’n cael ei neilltuo.
Fe ofynnodd ond Tidal Lagoon Power ar y llywodraeth i wneud penderfyniad o fewn chwe wythnos, ac yn ôl un Aelod Cynulliad lleol mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn dangos nad yw San Steffan yn gwrando.
“Mae hyn yn dangos agwedd y Torïaid tuag at ynni adnewyddadwy,” meddai AC y Democratiaid Rhyddfrydol dros Dde Orllewin Cymru, Peter Black.
“Heb y Democratiaid Rhyddfrydol yn llywodraethu gyda nhw, maen nhw’n gwneud popeth y gallan nhw i beidio â bwrw ‘mlaen â sefydlu economi werdd newydd yng Nghymru.
“Roedden ni wedi rhoi ein cefnogaeth lawn i Forlyn Abertawe, ond mae’r Torïaid wedi’i gwneud hi’n glir nad oes ganddyn nhw unrhyw ddiddordeb yn ein hamgylchedd na chreu miloedd o swyddi gwyrdd lleol.”
‘Gwerth am arian’
Mae’r Adran Ynni wedi dweud y bydd yr adolygiad diweddaraf yn ystyried a yw’r prosiect yn Abertawe yn cynnig gwerth am arian.
Mewn datganiad am brosiectau drwy wledydd Prydain, dywedodd Gweinidogaeth Ynni San Steffan fod “angen gwneud mwy o waith er mwyn dod i gasgliad ynghylch a ydyn nhw’n cynnig gwerth am arian”.
Bydd yr adolygiad yn dechrau yn y gwanwyn, gan gasglu tystiolaeth er mwyn sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud “er lles y DU”.
Mae disgwyl i Tidal Lagoon Power gymryd rhan yn yr adolygiad, ond dydyn nhw ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.
‘Heb ei brofi’
“Mae morlynnoedd ar y raddfa hon yn dechnoleg gyffrous ond yn un sydd heb ei phrofi hyd yn hyn,” meddai’r Aglwydd Bourne, sydd yn un o weinidogion yr Adran Ynni yn San Steffan.
“Rwy am ddeall yn well a all morlynnoedd llanw fod yn gost-effeithiol, a beth fydd eu heffaith ar filiau – heddiw ac yn y tymor hir.”
Bydd yr adolygiad yn rhoi sylw i ba mor gost-effeithiol yw morlynnoedd llanw, y cyfleoedd y maen nhw’n eu cynnig, strwythurau ariannu morlynnoedd llanw, maint amryw brosiectau ac a ellir creu fframwaith sy’n cynnig cystadleuaeth o fewn y diwydiant.