Mae’r cyngor cyllido addysg uwch, Hefcw wedi croesawu tro pedol rannol Llywodraeth Cymru ar eu penderfyniad i dorri cyllid addysg uwch.
Roedd disgwyl i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Hefcw) wynebu lleihad o £41m i’w chyllid yn y flwyddyn ariannol nesaf, toriad o 32%.
Ond tua £10m fydd nawr yn cael ei thorri, a hynny wedi i’r Gweinidog Cyllid Jane Hutt ddweud bod £21m yn cael ei dychwelyd i’w chyllideb, a £10m ychwanegol yn mynd tuag at gyrsiau rhan amser.
Bydd £2.5m o arian wrth gefn hefyd yn cael ei ddosbarthu i gynghorau sir Powys, Ceredigion a Sir Fynwy ar ôl iddyn nhw gwyno am doriadau dwfn i’w cyllidebau.
Fe fydd cyngor sir Powys yn derbyn £1.93m o gyllid ychwanegol, Ceredigion yn cael £439,000 ychwanegol, a Sir Fynwy yn derbyn £109,000.
Hefcw ‘wrth eu bodd’
Mewn datganiad yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd llefarydd ar ran Hefcw eu bod nhw “wrth eu bodd” yn dilyn tro pedol rannol Llywodraeth Cymru.
Rhybuddiodd y corff y byddai “toriad o 32% i gyllideb Hefcw wedi cael gwir effaith ar allu prifysgolion i wireddu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru”.
“Rydym wrth ein bodd fod cyfraniad prifysgolion Cymru i economi a chymdeithas Cymru wedi cael ei gydnabod.”
Ychwanegodd cadeirydd y corff Prifysgolion Cymru, yr Athro Colin Riordan: “Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y ddealltwriaeth y mae gweinidogion wedi’i ddangos o bryderon prifysgolion a myfyrwyr yn dilyn cyhoeddi’r gyllideb ddrafft.
“Tra bod y rhagolygon cyllido ar gyfer 2016-17 yn parhau’n ddigynsail o anodd, rydym bellach yn fwy hyderus y bydd prifysgolion Cymru’n gallu dod i ben yn y tymor byr tan y gellir wynebu heriau’r dyfodol.”