Jane Hutt
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud tro pedol rannol ar doriadau i’r sector addysg uwch yn ei Chyllideb Drafft heddiw.
Roedd disgwyl i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) wynebu lleihad o £41m i’w chyllid yn y flwyddyn ariannol nesaf, toriad o 32%.
Ond tua £10m fydd nawr yn cael ei thorri, a hynny wedi i’r Gweinidog Cyllid Jane Hutt ddweud bod £21m yn cael ei dychwelyd i’w chyllideb, a £10m ychwanegol yn mynd tuag at gyrsiau rhan amser.
Bydd £2.5m o arian wrth gefn hefyd yn cael ei ddosbarthu i gynghorau sir Powys, Ceredigion a Sir Fynwy ar ôl iddyn nhw gwyno am doriadau dwfn i’w cyllidebau.
Fe fydd cyngor sir Powys yn derbyn £1.93m o gyllid ychwanegol, Ceredigion yn cael £439,000 ychwanegol, a Sir Fynwy yn derbyn £109,000.
Ffrae dros iechyd
Dywedodd Jane Hutt bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi addo £300m ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd, gyda £30m hefyd yn mynd tuag at yr henoed a gwasanaethau iechyd meddwl.
Mynnodd y Gweinidog Cyllid bod y gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol 7% y pen yn uwch nag yn Lloegr.
Ond doedd hynny ddim yn ddigon i blesio Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr, Nick Ramsay, a ddywedodd bod y cyllid ychwanegol i wasanaethau iechyd yn dod ar ôl blynyddoedd o dangyllido, a’i fod yn “rhy ychydig, rhy hwyr”.
Hawlio buddugoliaeth
Fe hawliodd y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru fuddugoliaeth dros y penderfyniadau i wneud tro pedol dros gyllid HEFCW a’r awdurdodau lleol.
Dywedodd Peter Black AC y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi cyllideb y llywodraeth gan fod addewidion wedi cael eu gwneud hefyd i wario mwy ar ysgolion, prentisiaethau a phasys bws i bobl ifanc
Yn dilyn y penderfyniad i beidio â thorri cymaint o gyllideb addysg uwch, galwodd Cymdeithas yr Iaith ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i ddatblygu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mewn datganiad dywedodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eu bod yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i adolygu’r gyllideb a lleihau ar y toriadau i’r gyllideb addysg uwch.
“Mae’r Coleg wedi mynegi pryder y gallai penderfyniadau tymor byr mewn perthynas â chyllideb y Coleg yn 2016/17 danseilio’r momentwm presennol, a thrwy hynny beryglu llawer o’r hyn sydd wedi ei gyflawni, ar yr union adeg pan y gallai Adolygiad (yr Athro Ian) Diamond argymell datrysiad parhaol.
“Ond yn dilyn y penderfyniad hwn gan Lywodraeth Cymru i adolygu’r gyllideb addysg uwch, galwn ar Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ddiogelu cyllideb y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer 2016/17.”