Mae golwg360 ar ddeall y bydd £200,000 yn cael ei dorri gan Lywodraeth Cymru o gyllid cynllun Twf ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Bwriad y cynllun yw darparu cefnogaeth i rieni sydd yn ceisio cyflwyno amgylchedd Gymraeg i’w babanod a’u plant o oed ifanc.
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi pwysleisio pwysigrwydd trosglwyddo’r Gymraeg i blant o oed ifanc sawl gwaith yn y gorffennol fel ffordd o sicrhau dyfodol yr iaith.
Ond bydd gwerth y grantiau fydd yn cael eu darparu gan y llywodraeth tuag at gynllun Twf yn gostwng o tua 30% yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Cafodd y toriadau arfaethedig eu disgrifio fel rhai “trychinebus” nad oes modd eu cyfiawnhau gan Gymdeithas yr Iaith.
Cyrsiau a chefnogaeth
Yn ystod 2014/15 cafodd £655,000 ei ddarparu tuag at gynllun Twf, gyda’r swm hwnnw’n codi i £700,000 yn 2015/16.
Ond fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai gwerth y cytundebau yn gostwng i £500,000 yn 2016/17.
Mae cynllun Twf yn ariannu swyddogion ledled Cymru yn ogystal â darparu cyrsiau ac adnoddau i rieni allu magu eu plant drwy’r Gymraeg.
Mae’n targedu rhieni sydd â phlant ychydig fisoedd oed ar y cyfan, ond mae’n debyg bod cynlluniau ar y gweill i’w hymestyn ar gyfer plant hyd at bedair oed.
Bydd y cytundeb Twf diweddaraf yn para am ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Ebrill 2016, gydag opsiwn i’w hymestyn am flwyddyn arall.
“Rydym ar hyn o bryd yn y broses o ail-dendro ac nid ydym yn gallu gwneud sylw pellach ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru pan ofynnwyd am ragor o fanylion.
‘Trychinebus’
Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, fod y toriadau diweddaraf i Twf yn mynd yn gwbl groes i ddyhead y mudiad i weld 1% o gyllideb Llywodraeth Cymru’n cael ei wario ar y Gymraeg.
“Byddai hyn yn drychinebus. Ble mae’r strategaeth hir dymor ar gyfer y Gymraeg?” holodd Jamie Bevan.
“Mae sicrhau bod rhieni yn trosglwyddo’r Gymraeg i’w plant yn un o’r elfennau pwysicaf mewn unrhyw strategaeth i dyfu’r iaith.
“Mae gan Lywodraeth Cymru gwestiynau mawr i’w hateb am hyn. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn codi flwyddyn nesaf, ond eto, maen nhw’n cynllunio gwneud toriad sylweddol i’r Gymraeg. O ystyried cyflwr y Gymraeg, nid oes modd cyfiawnhau hynny.”
Stori: Iolo Cheung