Simon Brooks, ysgrifennydd mudiad Dyfodol i'r Iaith
Mae mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi dweud ei fod yn ffafrio cael tair sir yn y gogledd, os bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru i leihau nifer yr awdurdodau lleol yn cael eu cyflwyno.
Fel rhan o ymgynghoriad y Llywodraeth ar ad-drefnu llywodraeth leol, mae’r mudiad iaith yn cefnogi uno Gwynedd a Môn, ond yn gwrthwynebu uno Gwynedd, Môn a Chonwy os yw ad-drefnu yn digwydd.
Mewn datganiad, dywedodd ysgrifennydd Dyfodol i’r Iaith, Simon Brooks, y byddai’r opsiwn uno Gwynedd a Môn gyda Chonwy yn golygu “ymysg pethau eraill ychwanegu at Wynedd a Môn cymunedau ar hyd glannau Clwyd lle nad yw’r Gymraeg yn iaith arferedig ond canran fychan o’r boblogaeth.
“Byddai hyn yn creu sefyllfa gwbl afrealistig o safbwynt Gwynedd yn cadw ei bolisi iaith cryf presennol, heb sôn am ei ehangu.
“Yn wir, byddai’n gosod her anorchfygol i’r Gymraeg fel iaith weinyddol,” meddai Simon Brooks.
Yr un yw ei neges sylfaenol, meddai Dyfodol, sef bod angen gwarchod ac ehangu’r Gymraeg fel iaith weinyddol Llywodraethau Leol yng Nghymru.
Dywedodd y grŵp ei fod eisoes wedi cynnal trafodaethau ar y mater â Llywodraeth Cymru, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews a’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Sefydlu tair sir yn “opsiwn synhwyrol”
Yn ôl y mudiad, er mwyn gwarchod a chryfhau’r Gymraeg mewn gweinyddiaeth gyhoeddus, yr “opsiwn synhwyrol” byddai sefydlu tair sir yn y gogledd.
“Os ydym am warchod ac ehangu ar yr hyn a gyflawnwyd yng Ngwynedd dros ddeugain mlynedd, mae’n rhaid sicrhau ffin a fyddai’n caniatáu hyn yn weddol rwydd,” meddai Simon Brooks.
“O ystyried demograffeg iaith a hanes y ddwy ardal, byddai uno Gwynedd a Môn yn cynnig cyfle gwych o safbwynt cryfhau’r Gymraeg yn y gogledd-orllewin.”
Ymateb ymhen mis
Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ad-drefnu Llywodraeth Leol ar agor tan ddydd Llun nesa’, Chwefror 15.
Mae disgwyl i’r llywodraeth ymateb yn llawn iddo o fewn tua mis ar ôl y dyddiad cau.