Mae cynghorydd UKIP sydd wedi’i dynnu oddi ar restr ymgeiswyr ei blaid ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, wedi amddiffyn ei benderfyniad i siarad allan a beirniadu polisi ei blaid ei hun tros dderbyn ymgeiswyr o Loegr.
Mewn cyfweliad gyda golwg360 heddiw, mae’r Cynghorydd Keith Mahoney yn dweud bod “yn rhaid” iddo siarad allan yn feirniadol tros bolisi’r blaid. Fe ddywedodd na fyddai am gael ei gysylltu â “pharasitiaid gwleidyddol” fel Neil Hamilton a Mark Reckless”.
Ac mae wedi cadarnhau y bydd yn newid ei deitl y bore yma i fod yn Gynghorydd Annibynnol ar Gyngor Bro Morgannwg, yn hytrach na chynghorydd UKIP.
“Ro’n i’n ymwybodol o beth fyddai goblygiadau y sylwadau wnes i,” meddai Kevin Mahoney, “ond ro’n i’n teimlo fod rhaid imi ddweud rhywbeth.
“Dw i wedi gweithio am nifer o flynyddoedd i geisio disodli’r gawod o bobol anghymwys anobeithiol sydd ar feinciau’r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn cael gwell safon o gynrychiolwyr.
“Ond, dydw i ddim wedi gweithio i’r deiliaid hynny gael eu newid am rai sydd mor ddrwg neu hyd yn oed yn waeth na nhw.”
Ym mis Ionawr, fe ddywedodd yn blaen na allai gefnogi Neil Hamilton, Mark Reckless ac Alexandra Phillips fel ymgeiswyr rhanbarthol tros UKIP. Ond, er hyn, nid yw eto wedi derbyn unrhyw ohebiaeth gan ei blaid ynglyn â’r broses ddisgyblu.
Polisi dewis ymgeiswyr
Fe gafodd polisi’r blaid ynglŷn â dewis ymgeiswyr ei ffurfioli ddydd Sadwrn. Bellach, aelodau’r blaid fydd yn cael dewis yr ymgeiswyr yn dilyn pleidlais.
“Dw i wedi gwneud fy rhan ac yn teimlo y gallaf ddal fy mhen yn uchel yn fy ymdrechion i warchod etholwyr Cymru rhag y rhai sydd yn gweld pleidleiswyr fel cam yn eu gyrfaoedd gwleidyddol yn unig,” meddai Kevin Mahoney.
“Dw i hefyd yn falch bod fy ymyrraeth i a phobol eraill wedi sicrhau bod pleidlais unfrydol o gadeiryddion y gangen wedi gwrthod y cynnig gan swyddog canlyniadau Piers Wauchope bod UKIP yn cynnal pleidlais aelodaeth yn fewnol.”
‘Mor ddrwg â’i gilydd’
Yr wythnos diwethaf, roedd galwadau i arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, i ymddiswyddo ynghylch y ffordd yr oedd y polisi o ddewis ymgeiswyr yn cael ei chynnal.
Roedd Joe Smyth, ymgeisydd UKIP yn Islwyn, wedi cyhuddo Nathan Gill o ddiffyg arweiniad.
Mae lle i gredu y gallai UKIP ennill sawl sedd ranbarthol ym mis Mai drwy gynrychiolaeth gyfrannol.
Ond teimla Kevin Mahoney “am y tro cyntaf mewn 39 mlynedd ers imi ddod yn gymwys i bleidleisio, fe fydda i’n ei gweld hi’n anodd iawn i daro pleidlais yn etholiadau mis Mai, gan fy mod yn ystyried yr holl bleidiau gwleidyddol presennol yng Nghymru i fod mor ddrwg â’i gilydd.”