Mae tân ar blatfform olew yng Ngwlff Mecsico, wedi lladd dau weithiwr ac anafu wyth arall.
Mae’r cwmni gwladol, Petroleos Mexico, wedi cadarnhau fod y tân ar blatfform Abkatun oddi ar arfordir talaith ddeheuol Campeche bellach dan reolaeth, ac maen nhw’n dweud na pheidiodd y gwaith tra’r oedd y tân yn cael ei ddiffodd.
Fe ddaeth cadarnhad hefyd fod un o weithwyr cwmni Pemex a gweithiwr cwmni arall o gontractwyr wedi marw yn y fflamau. Fe gafodd chwech o’r gweithwyr eu cludo i’r ysbyty, ac fe gafodd dau arall eu trin ac yna eu hanfon adref.