Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau y bydd Liam Williams yn dechrau yn safle’r cefnwr yn lle Gareth Anscombe, sydd wedi anafu llinyn y gâr.
Mae’r hyfforddwr Warren Gatland wedi dweud bod y penderfyniad i gynnwys Williams yn y pymtheg yn lle Anscombe wedi cael ei wneud nos Sadwrn.
Dywedodd wrth S4C: “Fe gafodd y penderfyniad ei wneud rhwng Gareth a’r staff meddygol neithiwr.
“Pe bai e’n tynnu llinyn y gâr, fe fyddai e allan am chwe wythnos. Dyw hi ddim werth cymryd y risg.”
Mae angen buddugoliaeth o saith pwynt ar Gymru dros Iwerddon yn Nulyn brynhawn Sul er mwyn mynd i frig tabl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ddiwedd penwythnos cyntaf y gystadleuaeth.
Mae nifer o’r Gwyddelod mwyaf blaenllaw wedi’u hanafu, gan gynnwys y blaenasgellwr Sean O’Brien a’r cefnwr Rob Kearney.
Daw Tommy O’Donnell a Simon Zebo i mewn i’r tîm, ac mae CJ Stander yn ymddangos yng nghrys Iwerddon am y tro cyntaf.
Mae lle ymhlith yr eilyddion i Rhys Ruddock, mab cyn-hyfforddwr Cymru, Mike.
Daw Tom James i mewn i dîm Cymru i ennill ei gap cyntaf ers dros bum mlynedd, ac mae Alex Cuthbert wedi’i enwi ymhlith yr eilyddion.
Daw prop y Scarlets, Rob Evans i mewn i’r rheng flaen yn lle’r prop profiadol Gethin Jenkins, wrth i’r hyfforddwr Warren Gatland ddweud yn gynharach yr wythnos hon fod angen i’r garfan ddechrau paratoi am ymddeoliad y prop 35 oed.
Sam Warburton fydd yn arwain Cymru er mai 60 munud o rygbi’n unig y mae e wedi’i chwarae ers mis Tachwedd.
Pe bai Bradley Davies yn dod i’r cae oddi ar y fainc, fe fydd yn ennill ei hanner canfed cap.
Mae adroddiadau bod Gareth Anscombe wedi’i anafu ac y bydd Liam Williams yn cymryd ei le. Ond fe allai Cymru droi at Rhys Priestland, sydd wedi’i enwi ymhlith yr eilyddion.
Ystadegau
Mae gan Gymru record dda yn Nulyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac o edrych ar eu tair ymweliad diwethaf â Dulyn, maen nhw wedi ennill ddwywaith.
Er bod Cymru wedi sicrhau 66 o fuddugoliaethau dros Iwerddon mewn gemau rhyngwladol o’i gymharu â 49 i’r Gwyddelod, y dynion mewn gwyrdd sydd â’r nifer fwyaf o fuddugoliaethau mewn gornestau rhwng y ddwy wlad (10-6).
Fe fydd pwysau ychwanegol ar Gymru wrth i’r Gwyddelod anelu am fuddugoliaeth i ddechrau ymgyrch a allai olygu mai nhw fydd y wlad gyntaf i ennill y Bencampwriaeth am y trydydd tro yn olynol.
Mae’r Gwyddelod hefyd yn parhau’n ddi-guro yn y Bencampwriaeth o dan yr hyfforddwr Joe Schmidt.
Iwerddon: S Zebo, A Trimble, J Payne, R Henshaw, K Earls, J Sexton, C Murray; J McGrath, R Best (capten), N White, M McCarthy, D Toner, CJ Stander, T O’Donnell, J Heaslip. Eilyddion: S Cronin, J Cronin, T Furlong, D Ryan, R Ruddock, K Marmion, I Madigan, D Kearney
Cymru: L Williams, G North, J Davies, J Roberts, T James, D Biggar, G Davies; R Evans, S Baldwin, S Lee, L Charteris, AW Jones, S Warburton (capten), J Tipuric, T Faletau. Eilyddion: K Owens, G Jenkins, T Francis, B Davies, D Lydiate, Lloyd Williams, R Priestland, A Cuthbert
Dyfarnwr: Jerome Garces (Ffrainc)
Dyfarnwyr Cynorthwyol: Glen Jackson (Seland Newydd), Ben O’Keeffe (Seland Newydd)
Dyfarnwr Fideo: Graham Hughes (Lloegr)