Mae tri ym mhob deg o famau beichiog rhwng 16 a 19 mlwydd oed, ac un ym mhob deg o famau beichiog dros 35 oed, yng Nghymru yn ysmygu, yn ôl StatsCymru.

Gwynedd yw un o’r siroedd lle mae’r gyfradd ar ei huchaf, gydag 16.5% o’r boblogaeth gyfan yn ysmygu.

Yn y cyfarfod llawn yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, Ionawr 31), gofynnodd Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, sut mae Llywodraeth Cymru’n asesu’r cysylltiad rhwng tlodi a’r lefel uchel o ysmygu ymysg merched beichiog yn yr ardal.

“Rydyn ni’n gwybod bod y bobl sy’n byw yn ein cymunedau lleiaf cyfoethog yn fwy tebygol o ysmygu nag yn yr ardaloedd mwyaf cyfoethog,” meddai Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.

“Mae effaith y defnydd o dybaco, yn enwedig yn ystod beichiogrwydd, yn elfen allweddol o’r anghydraddoldebau iechyd dwfn mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â nhw.”

Dywed Siân Gwenllian fod ganddi hithau bryderon hefyd am effaith ysmygu ar iechyd y mamau a’u babanod.

Ychwanega fod tystiolaeth gynyddol fod cysylltiad rhwng tlodi a lefelau uchel o ysmygu ymhlith mamau beichiog.

Cynllun arbenigol i famau

Gofynnodd Siân Gwenllian a yw’r cynllun peilot sy’n ceisio cefnogi merched beichiog i roi’r gorau i ysmygu, sydd eisoes ar waith yn sir Ddinbych, yn mynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng tlodi ac ysmygu ymhlith mamau beichiog.

Mae cynlluniau peilot gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sy’n cynnig cymorth i roi’r gorau i ysmygu, ac sydd wedi’u teilwra ar gyfer pobol feichiog yng Nghymru.

“Maen nhw wedi rhoi’r model gwasanaeth ‘Helpwch fi i roi’r gorau iddi ar gyfer babi’ ar waith, yr wyf yn deall ei fod yn cynnig cymorth arbenigol, pwrpasol a hyblyg i ysmygwyr, ac maen nhw wedi ystyried y pryderon ehangach, ynglŷn â byw a’r amgylchedd hefyd,” meddai Hannah Blythyn.

“Mae’n cynnig cyfle nid yn unig i bobol feichiog, ond i eraill yn y cartref gael cymorth gan eu cynghorydd rhoi’r gorau i smygu personol bob wythnos, yn ogystal â meddyginiaethau rhoi’r gorau i smygu am ddim gwerth hyd at £250, a chaiff ymweliadau cartref eu cynnig i helpu i wella’r mynediad at wasanaethau ‘Helpwch fi i roi’r gorau iddi’.”

Ychwanega Hannah Blythyn fod dau ymgynghorydd arbenigol sy’n rhoi cymorth i bobol feichiog ac aelodau eraill o’r aelwyd i roi’r gorau i ysmygu yn Arfon.

“Mae gan y cynlluniau cymhelliant hefyd gynllun peilot i dargedu pobol feichiog o ardaloedd llai cefnog, ac ysmygwyr ifanc, beichiog sy’n llai tebygol o roi’r gorau iddi,” meddai.

“Rwy’n fwy na pharod i gysylltu â’m cyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Iechyd, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y cynllun peilot hwnnw, ac mewn gwirionedd sut mae modd cymhwyso’r gwersi hynny mewn mannau eraill yn y gymuned, ar draws gogledd Cymru.”