Pontio - canolfan arloesi a chelfyddydau a chartref i undeb myfyrwyr Prifysgol Bangor
Mae pryderon y gall toriadau arfaethedig i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gael “effaith hynod andwyol” ar brifysgolion Cymru.
Mae’r Cynghorydd Siân Gwenllïan, sy’n ymgeisydd dros Arfon yn Etholiadau’r Cynulliad, wedi beirniadu’r llywodraeth am y toriadau gan gyfeirio at Brifysgol Bangor fel “un o’r cyflogwyr mwyaf yn lleol”.
Dydy hi ddim yn glir eto faint o gwtogi fydd yna ar gyllidebau prifysgolion Cymru. O
Ond yn ôl Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, fe fydd yn rhaid i’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch (HEFCW) wneud y tro â £41m yn llai dros y flwyddyn 2016/17, sy’n doriad o 32%.
Mae prifysgolion yng Nghymru yn dibynnu ar y cyngor cyllido am gyfran o’u harian.
Mae gan Brifysgol Bangor incwm blynyddol o £142 miliwn, a daw £14miliwn o hwnnw o goffrau HEFCW.
Cred Prifysgol Bangor bod y toriad i gyllideb HEFCW am olygu eu bod yn derbyn £4 miliwn yn llai o’r pwrs cyhoeddus.
“Byddai gan hyn oblygiadau pellgyrhaeddol, andwyol iawn i Brifysgol Bangor, sefydliad sy’n ffynnu ar hyn o bryd ac yn meddu statws byd-eang,” meddai’r Cynghorydd Siân Gwenllïan.
“Mae tua 2,400 o bobl yn gweithio ym Mhrifysgol Bangor ac mae’n hollbwysig i ffyniant lawer o fusnesau lleol. Mae’r 10,000 o fyfyrwyr sy’n byw ym Mangor yn bwysig i economi’r ddinas a’r ardal o gwmpas.
“Gallai’r toriadau sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd arwain at golli llawer o swyddi ond dydy Llafur ddim wedi cynnal unrhyw asesiad i weld effaith y toriad ar swyddi.”
Prifysgolion Bangor a Chaerdydd
Dywedodd Prifysgol Bangor nad ydyn nhw’n gwybod yn iawn eto faint yn union fydd y toriad ond eu bod yn disgwyl y gall fod dros £4m o’r £14m sy’n dod i’r brifysgol gan y cyngor cyllido.
“Mae incwm prifysgolion yn amrywio yn flynyddol, a daw o sawl ffynhonnell wahanol gan gynnwys ffioedd myfyrwyr, grantiau ymchwil, arlwyo, llety ac ati,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Bangor.
“Mae llawer ohono yn incwm a gyfyngir i bwrpas arbennig ac yn grantiau penodol – er enghraifft ar gyfer projectau ymchwil mewn meysydd arbenigol. Roedd cyfanswm ein hincwm llynedd yn £142m.”
Yn ôl Prifysgol Caerdydd, byddai’n gallu colli tua £23m o’i hincwm gan y cyngor cyllido, sy’n “ostyngiad enfawr mewn blwyddyn,” meddai llefarydd.
“Dydy hyn ddim am dynged ein prifysgolion yn unig, mae am y sawl sy’n gweithio ynddyn nhw a’r myfyrwyr sy’n astudio gyda ni. Mae dyfodol iechyd, cyfoeth a lles pobol Cymru yn dibynnu ar sector prifysgol cryf.”
“Goblygiadau difrifol”
Ar ddechrau mis Ionawr, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgolion Cymru: “Mae’r gostyngiad arfaethedig o £41.1m ym muddsoddiad prifysgolion yng Nghymru, a allai, fel rydym yn deall, gyrraedd £53m wrth ystyried toriadau yn ystod y flwyddyn, yn sylweddol iawn i’n prifysgolion ac i’r genedl.
“Mae ein prifysgolion yn cynhyrchu 4.6% o werth ychwanegol gros i economi Cymru, ac mae hynny’n cael ei roi mewn perygl mawr ac yn effeithio ar y 50,000 o swyddi sy’n cael eu cynnal.
“Ar gyfnod pan fydd Cymru yn buddsoddi’n sylweddol i gynyddu ei gwerth ychwanegol gros, byddai’r gostyngiadau sy’n cael eu cynnig i’n prifysgolion yn gwneud y gwrthwyneb, gyda goblygiadau economaidd a chymdeithasol difrifol.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.