Cyngor Sir Gaerfyrddin
Mae Pwyllgor Cynllunio Sir Gaerfyrddin wedi gwrthod cynllun dadleuol i adeiladu canolfan i gynhyrchu ynni o wastraff.

Pleidleisiodd cynghorwyr yn unfrydol i wrthod cais y cwmni Clean Power Properties i adeiladu safle ger Fferm New Lodge yng Nghwm Gwili.

Bwriad y cynllun oedd defnyddio gwres uchel o tua 500˚c i droi tunelli o sbwriel yn nwy adnewyddadwy. Byddai wedi defnyddio hyd at 128,000 o dunelli o sbwriel er mwyn creu ynni newydd.

Gwrthwynebiad lleol

Bu gwrthwynebiad lleol i’r cynllun, am resymau dros allyriadau yn yr aer a phroblemau traffig.

Roedd y pwyllgor hefyd wedi cael llythyr gan yr AS, Nia Griffith, a fynegodd bryderon dros hyfywedd y safle, yr effaith ar Barc Bwyd Cross Hands, allyriadau a llygredd dŵr.

Roedd y cwmni yn gwadu mai llosgydd byddai’n cael ei adeiladu yno.