Clywodd cwest heddiw fod dyn o’r Barri wedi marw ar ôl iddo dagu ar ôl rhoi byrgyr cyfan yn ei geg.

Bu farw Darren Bray, 29, ar ôl ceisio bwyta’r byrgyr yn nhŷ ffrindiau ym mis Hydref y llynedd.

Clywodd y cwest yng Nghaerdydd sut wnaeth ei ffrindiau,  Amy Bernett a Sam  Bisgrove, geisio ei achub drwy gael y byrgyr o’i geg.

Ond er i barafeddygon geisio cael gwared a’r bwyd o’i geg gan ddefnyddio dyfais sugno a pherfformio CPR, bu farw yn y fan a’r lle.

Dywedodd Dr Rhiannon Trefor, a oedd wedi cynnal yr archwiliad post-mortem, wrth y cwest ei fod wedi marw oherwydd rhwystr i’r llwybrau anadlu. Ychwanegodd y byddai ei farwolaeth wedi bod yn gyflym ac ni fyddai wedi dioddef.

Cofnododd y Crwner Cynorthwyol Christopher Woolley reithfarn o farwolaeth drwy anffawd.