Nathan Gill
Mae un o ymgeiswyr mwyaf blaenllaw UKIP yn yr etholiadau’r Cynulliad yng Nghymru wedi galw ar yr arweinydd yng Nghymru i ymddiswyddo.

Dywedodd Joe Smyth, a lwyddodd i ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau UKIP ledled Cymru yn etholaeth Islwyn, fod Nathan Gill heb ddangos unrhyw arweinyddiaeth yn ystod ffrae’r blaid dros bwy ddylai sefyll yn etholiadau’r Cynulliad.

Ond dywedodd llefarydd Nathan Gill ei fod “fel arweinydd UKIP yng Nghymru wedi gweithio’n galed dros sicrhau bod y broses o ddewis ymgeiswyr yn adlewyrchu dymuniadau’r aelodaeth, gan yn y diwedd ennill y ddadl â’r blaid genedlaethol i gyflwyno pleidlais dros ddewis ymgeiswyr”.

Mae hollt yn dechrau ymddangos yn y blaid yng Nghymru, ar ôl i nifer o gyn-ymgeiswyr rybuddio y byddan nhw’n anhapus os bydd cyn-Aelodau Seneddol Ceidwadol fel Neil Hamilton a Mark Reckless yn cael eu dewis ar gyfer y rhestrau rhanbarthol.

Aelodau’n pleidleisio dros ymgeiswyr

Dywedodd Nathan Gill  fod y Pwyllgor Cenedlaethol wedi penderfynu y bydd aelodau’r blaid yn cael pleidleisio dros bwy fydd yn cynrychioli UKIP ym mhob rhanbarth maen nhw’n gobeithio ennill seddi.

Bydd rhestr o 5 i 7 ymgeisydd yn ymddangos ar gyfer pob rhanbarth, gan gynnwys Neil Hamilton a Mark Reckless.

Dywedodd Joe Smyth, sydd wedi cael ei ddewis i sefyll dros Islwyn eto yn yr etholiadau ym mis Mai, y dylai Nathan Gill fynnu mai’r blaid yng Nghymru sy’n cynnal y broses ddewis ymgeiswyr.

Yn yr etholiad cyffredinol, daeth Joe Smyth yn ail yn etholaeth Islwyn, gan ennill 19.8% o’r bleidlais.

Er gwaethaf cael ei ddewis i sefyll yn yr etholaeth eto, roedd wedi camu i lawr o’r dewis rhanbarthol, mewn protest yn erbyn y ffordd roedd yr holl beth yn cael ei drefnu.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan UKIP a Nathan Gill.