Mae apêl banciau bwyd yn Arfon ar drothwy’r Nadolig wedi chwalu eu targed gwreiddiol, ac wedi gosod targed newydd.

Ddechrau Rhagfyr, cafodd ymgyrch codi arian ei lansio ar gyfer wyth o fanciau bwyd yr ardal.

Cafodd yr apêl ei lansio gan Siân Gwenllian a Hywel Williams, Aelod o’r Senedd ac Aelod Seneddol yr ardal.

Yn ystod y flwyddyn aeth heibio, bu cynnydd sylweddol yn y defnydd o fanciau bwyd.

Yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell, cafodd bron i dair miliwn o barseli bwyd eu rhoi i bobol fu’n wynebu anawsterau ariannol rhwng Ebrill y llynedd a Mawrth eleni – sy’n fwy na dwywaith y nifer gafodd eu dosbarthu yn ystod yr un cyfnod bum mlynedd yn ôl a 37% yn fwy na’r un adeg y llynedd.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r gwleidyddion gynnal ymgyrch Nadolig o’r fath.

Y llynedd, cafodd £4,765 ei godi tuag at fanciau bwyd yn yr etholaeth.

Costau byw

Yn ôl Siân Gwenllian, mae pryder am gostau bwyd yn lleol a’r gobaith yw y bydd yr apêl yn denu’r un gefnogaeth â’r llynedd.

“Mae’r apêl yn cael ei chynnal eleni ar adeg arbennig o bwysig,” meddai.

“Gwta fis yn ôl, mynegodd banc bwyd yng Nghoed Mawr yn fy etholaeth bryder am gostau a galw cynyddol.

“Roedd y gefnogaeth gafodd yr apêl y llynedd yn aruthrol.

“Dw i’n siŵr mai tua £500 oedd y targed gafodd ei gosod yn wreiddiol, ond roedd y cyfraniadau’n tyfu a thyfu.

“Rydyn ni’n gobeithio efelychu rhywfaint o’r llwyddiant hwnnw eleni, a chodi arian hanfodol i brosiectau bwyd ar draws yr etholaeth.

“Mae’r ffaith fod y rhan fwyaf o’r prosiectau hyn wedi’u sefydlu ers dechrau’r pandemig yn dangos pa mor ansicr oedd sefyllfa ariannol nifer o bobol, a sut fod teuluoedd prin yn goroesi o ddydd i ddydd.”

Y prosiectau fydd yn elwa

Y prosiectau fydd yn elwa o’r apêl yw:

  • Banc Bwyd Arfon, Caernarfon
  • Banc Bwyd Coed Mawr, Bangor
  • Bwyd i Bawb Bangor
  • Cynllun Bwyd Yr Orsaf, Penygroes
  • Porthi Dre, Caernarfon
  • Pantri Pesda, Bethesda
  • Cynllun bwyd Llanrug a Chwm-y-glo
  • Banc Bwyd Eglwys Gadeiriol Bangor

Ymosod ar y bobol fwyaf bregus

Yn ôl Hywel Williams, mae’r gymuned leol yn Arfon yn hael yn wyneb ymosodiadau Llywodraeth Geidwadol San Steffan “ar y bobol fwyaf bregus mewn cymdeithas”.

“Diolch i haelioni’r cyhoedd, yn ogystal ag ymroddiad gwirfoddolwyr, mae’r rhai sydd angen cymorth yn gallu rhoi bwyd ar y bwrdd y Nadolig hwn,” meddai.

“Mae cefnogaeth y gymuned yn Arfon yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr.

“Gwn y bydd pobol leol yn dod i’r adwy ac yn garedig yn eu cyfraniadau i’n hymgyrch eto eleni, a thrwy hynny’n sicrhau na fydd banciau bwyd lleol yn cael trafferth cynnig cymorth i bobol y Nadolig hwn.

“Mae’r Llywodraeth yn San Steffan yn parhau i ymosod ar y bobol fwyaf bregus mewn cymdeithas, ac o’r herwydd bydd mwy o bobol yn ddibynnol ar haelioni prosiectau bwyd.

“Serch hynny, gwn y bydd pobol Arfon yn gwneud eu rhan i gefnogi gwaith gwych y prosiectau hyn.”

“Rhan fach” o ymdrechion Plaid Cymru

Yn ôl Siân Gwenllian, rhan fach yn unig o ymdrechion Plaid Cymru i fynd i’r afael â’r sefyllfa yw’r apêl.

“Dw i’n falch fod Plaid Cymru ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn tlodi bwyd, wedi inni sicrhau prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd erbyn 2024,” meddai.

“Mae rhagor o waith i’w wneud, ond dw i’n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn chwarae rhan fechan yn yr ymdrech honno.”