Mae cais cynllunio ar gyfer siop a fflat newydd gan uwch gynghorydd yn dweud mai Ceredigion sydd â’r gwymp fwyaf yng nghanran y plant sy’n byw yn y sir o blith holl siroedd Cymru.

Fe wnaeth Matthew Vaux, Cynghorydd Sir Ceinewydd a Llanllwchaearn ac Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethiant a Gwarchod y Cyhoedd, gais i ddymchwel siop gynnyrch Parc y Pant yn ardal Cross Inn ger Ceinewydd, gyda siop newydd a fflat dwy ystafell wely, llawr cyntaf ar y farchnad agored i gymryd eu lle.

Dywedodd adroddiad ar gyfer cynllunwyr fod yr adeilad metel un llawr presennol yn dioddef o ganlyniad i rwd a thraul, a’r cynnig yw fod y fflat ar gael i’w rhentu ar y farchnad agored, ynghyd â’r adeilad newydd.

Cafodd Asesiad Effaith Gymunedol a Ieithyddol ei gyflwyno i gefnogi’r cais, gan nodi bod y boblogaeth yng Ngheredigion wedi gostwng gan 5.8% o ryw 75,900 yn 2011 i 71,500 yn 2021, o gymharu â thwf Cymru gyfan o 1.4%, gyda Cheredigion yn ail o ran y dwysedd poblogaeth lleiaf o blith 22 awdurdod lleol Cymru.

Mae’n ychwanegu bod Ceredigion wedi gweld y gostyngiad canrannol mwyaf yn nifer y plant dan 16 oed o blith 22 awdurdod lleol Cymru, gan weld cynnydd o 17.2% yn nifer y bobol 65 oed a hŷn, gostyngiad o 12.2% yn nifer y bobol 15-64 oed, a gostyngiad o 10.1% yn nifer y plant dan bymtheg oed.

Datganiad cefnogol

“Tra bod gofyn cael caniatâd cynllunio ar gyfer yr adeilad newydd yn yr achos hwn, does dim angen caniatâd cynllunio ar gyfer y fflat uwchben gan fod hwn yn ddatblygiad sy’n cael ei ganiatáu,” medd datganiad cefnogol gafodd ei wneud drwy law’r asiant Morgan & Flynn Architectural Services.

“Bydd y fflat sy’n cael ei chynnig yn gallu cynnal teulu bach, gan y bydd ganddi ddwy ystafell wely a dwy ystafell ymolchi, ac mae Ysgol Bro Cwilt a Cheinewydd wedi’u lleoli o fewn taith fer o’r safle.

“Felly, pe bai’r fflat yn cael ei llenwi â theulu â phlentyn, bydd e/hi yn cael eu magu i ddysgu a defnyddio’r iaith a chael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn eu hysgol gynradd ac uwchradd leol.”

Dywed y cais na fydd y cynnig ar gyfer fflat uwchben y siop yn cael effaith sylweddol na niweidiol ar y gymuned na’r iaith Gymraeg.

“Y gobaith yw y bydd y datblygiad yn cryfhau’r Gymraeg ac yn darparu cartref i bobol sy’n siarad Cymraeg,” medd y cais.

Cafodd y cais ei gymeradwyo’n amodol yn ystod cyfarfod cynllunio diweddar, gyda sêl bendith terfynol ar amodau cysylltiedig wedi’i roi yr wythnos ddiwethaf.