Bydd y cyfle i bobol ddysgu mwy am Gymru a’r Gymraeg yn ystod yr Wythnos Llysgenhadon Cymru gyntaf o fudd i’r gymuned leol a’r diwydiant twristiaeth yng Ngheredigion, yn ôl cynghorydd sir.

Mae Wythnos Llysgenhadon Cymru’n cael ei chynnal yr wythnos hon (Tachwedd 20-26).

Yn rhan o’r wythnos mae cynllun ar-lein sy’n rhoi hyfforddiant a gwybodaeth i bobol am rinweddau arbennig ardaloedd yng Nghymru.

Mae hefyd yn annog pobol i ddod yn llysgenhadon eu hunain, wrth i’r Cyngor Sir ddweud ei fod yn ffordd wych o ddysgu mwy am nodweddion unigryw llefydd.

Modiwlau amrywiol

Mae cyfres o fodiwlau ar-lein yn cael eu cynnig ar amrywiaeth o themâu, gan gynnwys yr iaith Gymraeg, cymunedau, diwylliant, hanes, tirluniau, twristiaeth gynaliadwy, beicio a cherdded.

Mae tair lefel o wobrau – tystysgrifau a bathodynnau aur, arian ac efydd – yn dibynnu ar nifer y modiwlau sy’n cael eu cwblhau.

Ceredigion yw’r sir ddiweddaraf i gynnig y cwrs rhad ac am ddim, gan ymuno â Pharciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, Sir y Fflint, Wrecsam, a Sir Gaerfyrddin.

Mae llysgenhadon yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer amrywiol gyrsiau i ddysgu mwy am Gymru a bod yn rhan o gymuned ehangach.

Mae’r cwrs ar gael ar-lein, ac mae’n bosib ei ddilyn gam wrth gam yn hamddenol.

Mae chwe modiwl ar gael ar gyfer Ceredigion ar hyn o bryd – cyflwyniad i’r sir a’i diwydiant twristiaeth, Iaith a diwylliant Cymraeg, Bae Ceredigion, Mynyddoedd Cambria, Aberystwyth ac Aberteifi – sy’n ddigon i gyrraedd lefel Arian – ac mae rhagor o fodiwlau ar y gweill, er mwyn cynnig dewis i’r rhai na fyddan nhw’n cyrraedd lefel Aur.

Wythnos Llysgenhadon Cymru

Nod Wythnos Llysgenhadon Cymru yw tynnu sylw at yr amrywiaeth eang o bobol sydd wedi elwa o ddod yn llysgenhadon, ac annog eraill i ymuno.

Bydd nifer o weithgareddau’n cael eu trefnu yn ystod yr wythnos, gan gynnwys digwyddiad ar-lein yn benodol ar gyfer llysgenhadon.

Bydd siaradwyr o Croeso Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri yn trafod prosiect di-blastig yr Wyddfa, a bydd Cymdeithas Tywyswyr Twristiaid Swyddogol Cymru hefyd yn bresennol ac yn esbonio sut i ddod yn Dywysydd Twristiaeth Cymru.

Ymhlith y gweithgareddau eraill fydd:

  • noson o dan y lloer i ddysgu am enwau Cymraeg y sêr a’r fytholeg y tu ôl i’r cytserau – rhywbeth sy’n denu pobol i ymweld ac aros dros nos mewn ardaloedd fel Mynyddoedd Cambria, sy’n enwog am wybren dywyll syfrdanol gydol y flwyddyn
  • sesiwn ryngweithiol ar sut i ddefnyddio ffonau clyfar i greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol
  • digwyddiad rhwydweithio cyflym i edrych ar sut y gall busnesau gydweithio.

Ar hyn o bryd, mae dros 3,750 o bobol wedi cofrestru, gyda thros 2,700 o bobol yn cyrraedd lefel efydd, nid yn unig o Gymru ond o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Mae 6,243 o fathodynnau efydd, arian ac aur wedi’u dyfarnu, gydag oddeutu dwy ran o dair o’r cyflawnwyr efydd yn mynd yn eu blaenau i gwblhau lefel aur.

Mae 15-20% o ddefnyddwyr yn cofrestru ar fwy nag un cwrs.

Dysgu am leoliadau yn y sir

Mae’r Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio, yn annog pobol i gofrestru ar gyfer y cwrs er mwyn dysgu am lefydd amrywiol yn y sir.

“Byddwn yn annog unrhyw un i fanteisio ar y cyfleoedd hyn,” meddai wrth golwg360.

“Gwn fod ymwelwyr nid yn unig yn holi ein gwasanaeth twristiaeth am syniadau am lefydd i ymweld â nhw, ond hefyd yn hoffi holi pobol leol mewn siopau, caffis, llety a thafarnau’r sir am eu barn.

“Mae’r cwrs yma’n ffordd hwylus a hawdd i helpu staff i ddysgu a rhannu gwybodaeth yn hyderus am wahanol ardaloedd ac atyniadau’r sir, a thrwy hynny’n cryfhau gofal cwsmer y busnes.

“Rwy’n siŵr y bydd trigolion Ceredigion yn elwa o’r cwrs yma hefyd ac yn cael syniadau am rannau o’r sir maen nhw’n llai cyfarwydd â nhw.”

Dywed fod y modiwlau, sydd ar gael yn ddwyieithog, nid yn unig yn cynnig gwybodaeth am Geredigion fydd o fudd i’r economi lleol a’r economi twristiaeth, ond hefyd maen nhw ar gael yng ngweddill Cymru.

“Os ydych eisiau gwybod mwy am filltir sgwâr tu allan i Geredigion maen nhw ar gael hefyd,” meddai.

“Mae yna gynlluniau i ganolbwyntio mwy ar Aberystwyth ac Aberteifi a’r cyffiniau, a Cheredigion.

“Hefyd, yr un nesaf maen nhw am ei gyhoeddi, rwy’n meddwl, yw’r un am natur ac ailgylchu yn sir Ceredigion.

“Mae pethau dal yn datblygu.

“Rwy’n bersonol yn byw yn Aberteifi, ond ddim yn gwybod popeth am Geredigion.

“Rwy’n credu ei fod yn mynd i fod yn grêt i’r economi twristiaeth, oherwydd dydy pobol sy’n ymweld â’r arfordir efallai ddim yn sylweddoli am y mynyddoedd Cambria ac, er enghraifft, y Dark Skies sydd gyda ni lan fan yna.

“Mae’n un o’r llefydd gorau yn Ewrop i ymweld â’r sêr.

“Mae llawer o hanes gyda ni allen ni ei rannu gyda phobol sy’n ymweld â’r sir, ac efallai nad ydy pobol sy’n byw yn y sir yn sylweddoli beth sydd ar eu stepen drws.

“Y prif bwrpas yw ein galluogi ni i helpu busnesau a rhoi hyder i staff, a dod i adnabod yr ardaloedd maen nhw’n byw ynddo, a gallu rhoi gwell gofal cwsmer.

“A hefyd mae’n helpu nhw weithio efo beth sydd ar gael yng Ngheredigion.

“Dywedwch eich bod chi mewn gwesty yn Aberaeron. Gallech chi ddweud amdan mynyddoedd Cambria, Strata Florida, Aberystwyth a chael pobol i weld mwy o Geredigion a dim jest aros yn un man.

“Dyna’r prif reswm rwy’n cefnogi’r syniad yma.”