Mae cynnig i gau ysgol leiaf Gwynedd wedi cael ei gymeradwyo.

Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cytuno â chynnig i gau Ysgol Felinwnda yn Llanwnda ger Caernarfon o Ragfyr 31.

Mewn datganiad, dywed Cyngor Gwynedd fod gan Ysgol Felinwnda y nifer leiaf o ddysgwyr yn y sir, gyda dim ond wyth ohonyn nhw’n mynychu’r ysgol.

Mae’r awdurdod yn cynnig llefydd i ddisgyblion presennol, naill ai yn Ysgol Bontnewydd neu yn Ysgol Llandwrog o fis Ionawr, yn dibynnu ar ddewis eu rhieni.

‘Gostyngiad sylweddol’

Daw’r penderfyniad i gau’r ysgol yn dilyn “gostyngiad sylweddol” yn y niferoedd dros y deng mlynedd diwethaf – o 31 o ddisgyblion yn 2012 i wyth yn 2022, gyda dim ond tri o’r wyth yn byw o fewn dalgylch yr ysgol.

Dywed awdurdod addysg y sir ei fod wedi penderfynu cau Ysgol Felinwnda o ganlyniad i ffactorau sy’n cynnwys nifer isel o ddysgwyr a rhagfynegiadau y bydd niferoedd disgyblion yn parhau’n “fregus”.

Roedd dau ddosbarth yn unig ym mis Ionawr, gyda thri dysgwr mewn un a phump mewn un arall.

Roedd gan y ddau ddosbarth ystod oedran o dair blynedd neu fwy.

Trafodaethau manwl

Daw’r penderfyniad i gau Ysgol Felinwnda yn dilyn trafodaethau manwl â’r plant, staff, rhieni, Cyngor Cymuned Llanwnda a’r gymuned ehangach, a chyfnod gwrthwynebu statudol pan gafodd pedwar gwrthwynebiad i’r argymhelliad eu derbyn.

“Daw’r penderfyniad i gau Ysgol Felinwnda efo thristwch mawr, ac mae’n ddiwedd cyfnod eithriadol o anodd i ddysgwyr, rhieni, athrawon a phawb ynghlwm,” meddai’r Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb dros Addysg.

“Dros y blynyddoedd, mae Ysgol Felinwnda wedi cynnig addysg o safon fyd-eang i genedlaethau o blant lleol, a hoffwn ddiolch i’r staff, cyn-aelodau o staff, llywodraethwyr a chyn-lywodraethwyr am eu hymroddiad a’u gwaith diflino dros y degawdau.

“Wedi dweud hynny, ein dyletswydd ni fel Cyngor ydy darparu’r addysg, y profiadau a’r amgylchedd dysgu gorau posib i’n plant, gan eu galluogi nhw i ddatblygu’n ddinasyddion dwyieithog crwn.

“Gyda hynny mewn cof, fel Cabinet, rydyn ni’n unfrydol yn ein barn mai’r penderfyniad anodd hwn ydy’r un cywir.

“Hoffwn ddiolch i bawb yn lleol sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth, gan gynnwys y disgyblion, staff, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach.

“Rydyn ni wedi gwrando ar sylwadau a dyheadau pobol leol yn ystod sesiynau ymgysylltu yn Felinwnda, Bontnewydd a Llandwrog.

“O ganlyniad i’r sylwadau a wnaed, bydd disgyblion a’u rhieni’n gallu dewis mynychu naill ai Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog, a bydd yna ymgynghoriad ar wahân ar ffiniau dalgylchoedd yr ysgolion ger dalgylch presennol Felinwnda.

“Ein blaenoriaeth rŵan fydd sicrhau bod dysgwyr Felinwnda’n derbyn yr holl gefnogaeth ymarferol ac emosiynol sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn ymgartrefu yn eu hysgolion newydd.

“Byddwn ni hefyd yn parhau i gefnogi a chydweithio â’r cynghorwyr sir lleol, Cyngor Cymuned Llanwnda a’r gymuned leol.”

Cludiant yn rhad am ddim

Bydd disgyblion presennol Ysgol Felinwnda sy’n byw yn nalgylch yr ysgol yn gymwys ar gyfer cludiant rhad ac am ddim i Ysgol Bontnewydd neu i Ysgol Llandwrog am weddill eu hamser yn un o’r ysgolion hynny, yn unol â pholisi cludiant Cyngor Gwynedd.

Bydd ymgynghoriad ar wahân yn cael ei gynnal ar ddyfodol dalgylch presennol Ysgol Felinwnda er mwyn cytuno ar ba ysgol(ion) fydd yn ysgol(ion) yn y dalgylch ar gyfer plant dalgylch presennol Ysgol Felinwnda yn y dyfodol.