Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio ymgynghoriad ar ddulliau cyfathrebu eu Gwasanaethau Cymdeithasol.

Maen nhw’n awyddus i glywed barn defnyddwyr gwasanaethau, eu teuluoedd a thrigolion y sir am drefniadau cyfathrebu presennol y gwasanaethau, a’r ffyrdd gorau o rannu gwybodaeth ar gyfer y dyfodol.

Yn ôl y Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd Cyngor Gwynedd, mae cyfathrebu a rhannu gwybodaeth yn bwysig iawn ac felly mae’n bwysig fod pobol yn rhannu eu barn.

“Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb yn y maes i rannu eu barn drwy lenwi’r holiadur sydd ar gael ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd, neu ar ffurf papur, ac i wneud hynny erbyn Rhagfyr 22,” meddai.

Lles pobol

Yn ô y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd, mae gwasanaethau’r Cyngor yn helpu lles plant ac oedolion.

“Mae gan Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd rwymedigaeth statudol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion,” meddai.

“Mae’r gwasanaethau yn grymuso trigolion i reoli eu bywydau eu hunain, hybu annibyniaeth, cefnogi cynhwysiant cymdeithasol a’u cyfranogiad mewn cymdeithas – hyn oll wrth helpu pobl i gadw’n ddiogel ac yn iach.

“Mae cyfathrebu gyda defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a thrigolion y sir yn chwarae rhan fawr yn y gwaith yma.

Mae’n holl bwysig deall felly beth yw barn y cyhoedd ar ein trefniadau cyfathrebu presennol.”

Sut i leisio barn

Gall pobl leisio eu barn drwy:

  • lenwi’r holiadur ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd
  • ffonio 01286 679 223 i ofyn am fersiwn papur o’r holiadur

I gael yr arolwg mewn fformat neu iaith arall, gall pobol ffonio Tîm Cydraddoldeb Cyngor Gwynedd ar 01286 679 708 neu e-bostio: cydraddoldeb@gwynedd.llyw.cymru