Mae’r bwlch cyflog ar sail anabledd yng Nghymru yn fwy nawr nag yr oedd ddeng mlynedd yn ôl, yn ôl ymchwil newydd.
Mae data TUC Cymru yn dangos bod gweithwyr sydd heb anableddau’n ennill 21.6% yn fwy na gweithwyr ag anableddau.
I weithwyr ag anableddau sy’n gweithio 35 awr yr wythnos, mae yna wahaniaeth cyflog o £3,460 y flwyddyn – sy’n golygu eu bod nhw’n gweithio am ddim am 47 niwrnod olaf y flwyddyn, ac nad ydyn nhw’n cael eu talu o heddiw (Tachwedd 14).
Yn sgil hynny, mae TUC wedi mabwysiadu heddiw fel Diwrnod Bwlch Cyflog Anableddau.
Mae ymchwil TUC Cymru’n dangos mai menywod ag anableddau sy’n wynebu’r bwlch cyflog mwyaf, gyda dynion heb anableddau’n ennill 30% yn fwy na menywod ag anableddau.
Mae eu hymchwil hefyd yn dangos bod y bwlch cyflog yn fwy yng Nghymru nag mewn unrhyw wlad neu ran arall o’r Deyrnas Unedig, a’i fod yn amrywio o sector i sector.
Mae’r bwlch ar ei uchaf mewn gwasanaethau ariannol a diwydiannol, gyda gwahaniaeth o 33.2%.
Yn ôl y dadansoddiad, mae gweithwyr ag anableddau yn fwy tebygol o fod ar gytundebau oriau sero hefyd, gyda menywod du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol ag anableddau bron i dair gwaith yn fwy tebygol o fod ar gytundeb ansicr o gymharu â dynion gwyn heb anabledd.
‘Haeddu tâl teg’
Mae TUC Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar Dasglu Hawliau Pobol Anabl, sydd wedi’i sefydlu i edrych ar yr anghydraddoldebau sy’n wynebu pobol ag anableddau, ac mae disgwyl i Gynllun Gweithredu Hawliau Pobol Anabl gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth.
Ynghyd â hynny, mae TUC Cymru’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddod â’r gwahaniaethu yn erbyn gweithwyr ag anableddau i ben, ac yn dweud y byddai Bargen Newydd Llafur ar gyfer Gweithwyr yn “drawsnewidiol” ar gyfer hawliau gweithwyr.
Mae’r Blaid Lafur wedi addo cyflwyno hawliau newydd mewn bil cyflogaeth pe baen nhw’n ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.
Byddai’r fargen honno’n cynnwys:
- adrodd ar fylchau cyflog anabledd ac ethnigrwydd.
- gwahardd cytundebau oriau sero
- sicrhau bod pob gweithiwr yn cael gwybod yn ddigon cynnar am newidiadau i oriau gwaith neu shifftiau.
“Rydyn ni gyd yn haeddu cael ein talu’n deg am y gwaith rydyn ni’n ei wneud,” meddai Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.
“Ond mae pobol ag anableddau’n parhau i fod â gwerth is ym marchnad swyddi Cymru.
“Mae’n gywilyddus nad oes yna ddim cynnydd ar y bwlch cyflog dros y degawd diwethaf.
“Ddylai bod yn anabl ddim golygu eich bod yn cael cyflog is – neu’n cael eich gadael allan o’r farchnad swyddi’n gyfan gwbl.
“Mae gormod o bobol ag anableddau’n cael eu dal yn ôl yn y gwaith, a dydy’r newidiadau rhesymol maen nhw eu hangen i wneud eu gwaith ddim yn digwydd.
“Rydyn ni angen cryfhau’r system fudd-daliadau i’r rhai sydd methu gweithio neu sydd allan o waith, fel nad ydyn nhw’n cael eu gadael mewn tlodi.”
Ychwanega y byddai Bargen Newydd y Blaid Lafur yn golygu fod yr anghydraddoldeb yn cael ei amlygu, gan y byddai proses ffurfiol o adrodd ar y bwlch cyflog.
“Heb y ddeddfwriaeth hon, bydd miliynau o weithwyr yn derbyn cyflog is a thlodi mewn gwaith am flynyddoedd eto,” meddai.