Mae Canolfan Yr Egin S4C yng Nghaerfyrddin wedi’i henwebu ar gyfer gwobr Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y gweithle yng Ngwobrau Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru.

Derbyniodd y ganolfan yr enwebiad am eu gwaith yn darparu cymorth gyrfaoedd i ddisgyblion mewn ysgolion lleol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac am eu gwaith fel hwb i fusnesau creadigol a digidol.

Mae’r seremoni wobrwyo’n gyfle i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau sydd wedi gweithio gyda nhw yn ystod y flwyddyn mewn digwyddiad arbennig.

Caiff y gwobrau eu noddi gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, a byddan nhw’n cael eu cynnal ar Dachwedd 22.

‘Ysbrydoli ac ysgogi’r genhedlaeth iau’

Bwriad y seremoni yw dathlu’r gwaith mae cyflogwyr wedi’i wneud i helpu ysgolion a phobol ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.

“Llongyfarchiadau i Ganolfan S4C Yr Egin am gyrraedd rhestr fer Gwobr Partneriaid Gwerthfawr 2023,” meddai Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru.

“Mae gweithio gydag ysgolion i ddarparu cymorth gyrfaoedd gwerthfawr yn helpu i ysbrydoli ac ysgogi cenhedlaeth iau, sef gweithlu’r dyfodol yng Nghymru.

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Yr Egin i’r seremoni wobrwyo arbennig yn adeilad y Pierhead eleni ac yn dymuno pob lwc i bawb.”

‘Diolchgar iawn’

Mae’r Egin, sy’n gartref i fwy nag 16 o fusnesau, wedi bod yn cynnal nifer o ddiwrnodau agored gydag ysgolion Sir Gaerfyrddin, er mwyn iddyn nhw fedru cael mewnwelediad i’r hyn sydd gan y diwydiannau creadigol i’w gynnig, a llwybrau gyrfa posibl.

Un o’r ysgolion hynny yw Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin.

“Rydyn ni yma yn ysgol Bro Myrddin yn ddiolchgar iawn o’r profiadau tu hwnt o werthfawr a gafwyd gan ein disgyblion Blwyddyn 9 a Blwyddyn 12 ar eu hymweliadau i’r Egin,” meddai Eirlys Thomas, Pennaeth Cynorthwyol yr ysgol.

“Roedd arlwy llawn o weithgareddau wedi eu trefnu ar eu cyfer megis sgriptio a chyfieithu ar y pryd yn ogystal â chyflwyniadau gan gynrychiolwyr o S4C, Afanti a chyn-ddisgyblion sydd bellach yn rhan o’r tîm yn yr Egin.

“Roedd yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o’r mathau gwahanol o yrfâu y gellir eu gwneud drwy gyfrwng y Gymraeg yma yng Nghaerfyrddin.”

‘Meithrin talent y dyfodol’

Mae staff y Ganolfan wrth eu boddau o gael eu henwebu, yn ôl Llinos Jones, Swyddog Ymgysylltu Yr Egin.

“Un o brif amcanion Yr Egin yw meithrin talent y dyfodol, drwy gynnal digwyddiadau a hyrwyddo gyrfaoedd mae modd codi ymwybyddiaeth ymhlith pobol ifanc o’r holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y diwydiannau creadigol yn Sir Gâr, a hynny yn y Gymraeg,” meddai.

“Diolch o galon i bawb rydym wedi  cydweithio â hwy, rydym wedi datblygu partneriaethau gyda Gyrfa Cymru, Tîm Ehangu Mynediad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac amryw o gwmnïau creadigol a digidol sydd wedi eu lleoli yma yn Yr Egin er budd disgyblion ysgol ac effeithio’n gadarnhaol ar y Gymraeg.”