Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio wedi i gorff babi gael ei ganfod ger ystad ddiwydiannol yng Nghasnewydd.
Fe gafodd plismyn eu galw, meddai llefarydd, toc wedi 2yp ddydd Gwener i Barc Imperial, Coedcernyw.
Heddiw, mae swyddogion yn dal i fod yn yr ardal, ac maen nhw’n rhwystro’r cyhoedd rhag mynd yn agos i’r ardal goediog.
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau y bydd prawf post mortem yn cael ei gynnal ddydd Llun, Chwefror 1.