Mae Heddlu West Mercia wedi cadarnhau eu bod wedi arestio dau Gymro arall mewn cysylltiad ag achos o drywanu yn nhre’ Croesoswallt.

Fe gafodd dyn ei anafu’n ddifrifol yn y digwyddiad yn ardal Castlefields ar Ionawr 23.

Fe gafodd dyn 18 oed o Wrecsam ei arestio ddydd Gwener, ac fe gafodd dyn 51 oed o’r Trallwng ei arestio ddydd Iau ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio. At hynny, mae dyn 19 oed o Wrecsam wedi’i ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bo’r ymchwiliadau’n parhau.