Bydd yr orsaf biomas ar hen safle ffatri alwminiwm
Fe fydd gwaith yn dechrau’n fuan ar bwerdy biomas newydd ar Ynys Môn allai greu dros 1,700 o swyddi, ar ôl i’r cwmni fydd yn gyfrifol am y datblygiad brynu’r safle.
Yn ôl Orthios, y cwmni sydd y tu ôl i’r orsaf newydd, bydd tua 1,200 o’r swyddi yn deillio o’r broses adeiladu, gyda 500 o swyddi parhaol ar y safle wedi iddo gael ei chwblhau.
Mae disgwyl i’r datblygiad ar hen safle ffatri Alwminiwm Môn gostio tua £1biliwn.
Collwyd 400 o swyddi pan gaeodd y gweithfeydd smeltio yno nôl yn 2009.
Tyfu gorgimwch a llysiau
Bydd yr orsaf biomas newydd, sydd yn cael ei hariannu gan gwmni o China, yn gallu creu 299MW o drydan, digon i ddarparu pŵer i ryw 300,000 o dai.
Bydd y gwres a’r gwastraff sydd yn cael ei gynhyrchu hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynhesu fferm gorgimychiaid cyfagos a thyfu llysiau.
Mae disgwyl i ail bwerdy biomas tebyg hefyd yn cael ei hadeiladu ym Mhort Talbot dros y blynyddoedd nesaf.
Mae arweinydd y Cyngor, Ieuan Williams, wedi croesawu’r datblygiad gan ddweud y bydd yn dod â gwaith angenrheidiol i ardal Caergybi.
“Mae hon yn garreg filltir economaidd sylweddol i’r ynys, ac un rydyn ni’n ei groesawu’n wresog,” meddai Ieuan Williams.