Mae creu modelau rôl ar gyfer menywod yn hanfodol er mwyn eu denu i’r byd technoleg, yn ôl Emily Roberts, Rheolwr Ymgysylltu a Chymuned parc gwyddoniaeth M-SParc.

Yn ôl arolwg o 500 o bobol yn y diwydiant technoleg, dywed 76% eu bod nhw wedi profi rhagfarn rhywedd yn y gweithle.

Dywed Emily Roberts fod hyn yn rywbeth maen nhw wedi’i sylweddoli wrth siarad â phobol yn M-SParc hefyd.

“Mae yna lot yn y grwpiau rydan ni’n trafod efo wedi bod yn sôn bod yna bethau maen nhw’n dweud sydd wedi digwydd iddyn nhw oherwydd eu bod nhw’n ferched,” meddai wrth golwg360.

“Pethau sy’n gallu cael eu gweld fel pethau bach, er enghraifft pan ydych chi’n cael cyfarfod maen nhw’n gofyn i chi ysgrifennu’r cofnodion, er eich bod chi yna fel rhan o’r cyfarfod ac nid fel staff gweinyddol.

“Neu maen nhw’n gofyn i chi wneud paned, tasgau bach gweinyddol sydd fel arfer yn cael eu gweld fel rhai y dylai merched eu gwneud yn y gweithle.

“Mae hynny’n gallu bron eich bychanu chi ychydig o flaen pobol eraill, a gwneud iddo edrych fel eich bod chi yno i weinyddu ar bawb ac nid oherwydd eich swydd.”

‘Amser y Mis’

Dywed Emily Roberts fod M-SParc yn ceisio mynd i’r afael â’r broblem drwy amryw o ddulliau, gan gynnwys rhai sydd ychydig yn fwy hwyliog.

“Rydan ni’n rhedeg clwb o’r enw Amser y Mis, oherwydd rydan ni’n cwrdd bob mis, ond wrth gwrs mae yna sawl neges tu ôl i hwnna,” meddai.

“Mae’n rywbeth i bobol jest cael ychydig bach o hwyl efo fo, ond hefyd sylweddoli ei fod o’n fater sydd angen sylw.”

Mae 52 cwmni yn gweithio o fewn M-SParc, a dywed Emily Roberts eu bod nhw i gyd wedi dod yn rhan o’r sgwrs.

“Rydan ni’n gwneud astudiaeth gyda’n tenantiaid sy’n gweithio yn yr adeilad, a rhyddhau beth rydan ni wedi’i ddarganfod fel eu bod nhw’n gallu gweld y bwlch eu hunain,” meddai.

“Mae hyn yn eu helpu nhw i farchnata swyddi sydd yn edrych yn agored i bawb.

“Mae cadw amrywiaeth o fewn y lle gwaith mor bwysig – dydy o ddim jest am ferched, wrth gwrs.

“Mae angen iddo gynrychioli’r byd sydd o’n cwmpas ni, oherwydd os ydy technoleg wedi’i dylunio a’i phrofi gan ddynion yn unig, yna mae hynny wrth gwrs yn newid sut rydyn ni’n gweld y canlyniadau.”

Creu modelau rôl

Mae M-SParc hefyd yn gweithio gyda phlant a phobol ifanc er mwyn ceisio llenwi’r bwlch sgiliau, ac fel rhan o’r gwaith maen nhw’n ymweld ag ysgolion a cholegau.

Dywed Emily Roberts fod mwy o ferched na bechgyn yn rhoi’r gorau i edrych ar y pynciau craidd STEM wrth iddyn nhw fynd i’r Chweched Dosbarth neu i’r brifysgol

“Yr unig ffordd i gadw diddordeb merched efo diddordeb mewn STEM ydi trwy fodelau rôl,” meddai.

“Felly, rydan ni’n gwneud yn siŵr pan ydyn ni’n ymweld ag ysgol ein bod ni’n dod â rhywun o’r diwydiant efo ni er mwyn dangos bod yna bobol ar eu stepen ddrws yn gwneud y gwaith yma.

“Rydan ni bob tro’n trio mynd â menywod gyda ni pan ydyn ni’n gallu.

“Pan mae yna hogan ifanc yn gweld dynes yn y rôl, a’n teimlo fel ei fod o’n rywbeth maen nhw’n gallu ei wneud hefyd, mae o’n un o’r ffyrdd gorau i gadw menywod mewn STEM.”

Colli Chwarae Teg

Yn y cyfamser, dywed Emily Roberts fod colli’r elusen cydraddoldeb menywod Chwarae Teg yn codi pryderon ynglŷn â’r cymorth fydd ar gael yn y dyfodol.

“Mae’r unig elusen yng Nghymru oedd yn helpu o ran cadw menywod yn eu swyddi wedi colli eu harian, a dydw i ddim yn siŵr pa neges mae hynny’n rhoi allan,” meddai.

“Alla i ddim yn uniongyrchol ddweud faint o gymorth sydd yno [i fenywod yn y diwydiant] ar hyn o bryd heb ymchwilio.

“Mae hynny’n dweud rhywbeth am faint o agored ydi’r cymorth yma.”