Aravindan Balakrishnan
Mae disgwyl i arweinydd cwlt yn Llundain, sydd wedi’i gael yn euog o dreisio dwy o’i ddilynwyr a charcharu ei ferch am 30 o flynyddoedd, gael ei ddedfrydu fory.

Cafodd Aravindan Balakrishnan, 75, ferch ag un o’i ddilynwyr, Sian Davies, o Dregaron, a fu farw ar noswyl Nadolig 1996 ar ôl cwympo o ffenest y tŷ lle’r oedd y cwlt yn byw.

Cafodd y ferch, sy’n cael ei hadnabod fel Fran, ei bwlio â’i churo’n rheolaidd a doedd hi ddim yn cael mynd i’r ysgol, gwneud ffrindiau na gadael cartref y cwlt heb rywun arall.

Dywedodd Fran ei bod yn teimlo fel “aderyn mewn cawell”.

Mewn rhaglen arbennig, bydd Manylu ar BBC Radio Cymru yn gofyn sut wnaeth Sian Davies, a oedd yn dod o gefndir breintiedig, gael ei chyflyru gan Balakrishnan, neu’r ‘Cymrawd Bala’ a thorri pob cysylltiad â’i theulu.


Sian Davies o Dregaron
‘Meddwl ei fod fel duw’

Fe glywodd y llys yn achos Balakrishnan, ddechrau mis Rhagfyr ei fod wedi rheoli’r cwlt Comiwnyddol drwy fwlio a threisio ei ddilynwyr a’u cyflyru i feddwl ei fod fel duw.

Mae disgwyl iddo dreulio gweddill ei oes yn y carchar.

Mae ei wraig, Chanda Balakrishnan wedi aros yn driw iddo, gan fynnu mewn cyfweliad yn The Times ei fod yn ddieuog a bod yr honiadau yn ei erbyn yn “gynllwyn.”

Cafwyd Balakrishnan, o ogledd Llundain, yn euog o chwe chyhuddiad o ymosod yn anweddus a phedwar cyhuddiad o dreisio.

Cafwyd e’n euog hefyd o ddau gyhuddiad o achosi niwed corfforol, creulondeb i blentyn dan 16 oed, a charcharu ffug.

Bydd rhaglen Manylu ar BBC Radio Cymru am 12:30 heddiw.