Fe fyddai grantiau ffioedd dysgu’n parhau pe bai Llafur yn parhau mewn grym yn dilyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai, meddai’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis.
Fe fydd Huw Lewis yn dweud wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC yn ddiweddarach ddydd Sul fod ei blaid wedi ymrwymo i sicrhau y gall myfyrwyr o Gymru astudio lle bynnag maen nhw’n dymuno.
Ond does dim sicrwydd eto y bydd y grant ar gael i bob myfyriwr o Gymru, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr o Gymru’n talu £3,685 tuag at eu ffioedd, ac mae Llywodraeth Cymru’n talu’r gweddill – £5,315.
Fe fydd Huw Lewis yn dweud wrth y rhaglen: “Bydd rhaid i ni weld beth sydd gan y maniffestos i’w ddweud am hynny.
“Rwy’n credu fod angen egwyddor ganolog sef y byddwn ni’n buddsoddi yn eich uchelgais fel person ifanc ac ni fyddwn yn tarfu ar eich uchelgais, yn enwedig pan ddaw i ddaearyddiaeth.
“Os ydych chi’n credu y byddech chi’n well eich byd ar draws y ffin neu yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, mae hynny’n iawn. Felly byddwn ni’n cadw at yr egwyddor.”
Fe fu arbenigwyr yn galw ers tro am newid y ffordd y caiff myfyrwyr o Gymru eu hariannu, gan ddadlau bod myfyrwyr o Gymru ar ei hôl hi o’u cymharu â myfyrwyr o Loegr.
Mae’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis eisoes wedi cyhoeddi ei fod yn camu o’r neilltu adeg etholiadau’r Cynulliad.