Arweinydd Cyngor Gwynedd
Bydd siarter iaith Cyngor Gwynedd ar gyfer ysgolion cynradd yn cael ei hymestyn i bob un sir yn y gogledd mewn cynhadledd yn Llanrwst heddiw.
Mae’r siarter wedi bodoli yng Ngwynedd ac Ynys Môn ers 2011, gyda’r bwriad o ddylanwadu ar ddefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg.
Bellach, fe fydd y siarter yn berthnasol i ysgolion cynradd yn siroedd Conwy, Dinbych, Wrecsam a’r Fflint.
Cyngor Gwynedd sydd wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar y gwaith o ymestyn y siarter iaith.
Annog plant i siarad Cymraeg
“Ein nod yng Ngwynedd wrth sefydlu’r Siarter Iaith oedd annog a chefnogi plant y sir i ddefnyddio eu Cymraeg – nid yn unig yn y dosbarth ond ym mhob agwedd o’u bywydau,” meddai’r Cynghorydd Dyfed Edwards, arweinydd Cyngor Gwynedd.
“Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r cynllun wedi profi yn boblogaidd ymhlith ysgolion ar hyd a lled Gwynedd gyda disgyblion a staff yn cymryd camau ymarferol i sicrhau fod y Gymraeg yn cael lle teilwng yn yr ysgol a thu hwnt.
“Mae yna lawer iawn o arferion da yn ein hysgolion, yn cynnwys hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn ystod amser egwyl, hyfforddiant a gweithgareddau i ennyn balchder yn yr iaith a’r diwylliant a threfniadau ffurfiol i wobrwyo cynnydd.”
Dywedodd fod y siarter yn “dibynnu” ar staff, rhieni a llywodraethwyr yn ogystal â’r plant eu hunain er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal heddiw yng Nghanolfan Glasdir, Llanrwst.