Sally Holland (Llun Prifysgol Caerdydd)
Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi galw am gofrestr o’r holl blant sy’n derbyn eu haddysg gartref.

Roedd peryg fel arall i blant “lithro o dan y radar”, meddai Sally Holland ar ôl datgelu gwybodaeth newydd am fachgen wyth oed o Sir Benfro a fu farw o’r clefyd sgyrfi.

Roedd angen cofrestr er mwyn i swyddogion allu ymweld a’r plant, meddai Sally Holland wrth BBC Wales, ar ôl i newyddiadurwyr y Gorfforaeth weld adroddiad am farwolaeth y bachgen yn 2011.

Dim achos

Mae sgyrfi yn datblygu pan na fydd digon o fitamin C yn y corff, ond clywodd y cwest i farwolaeth Dulan Seabridge ei fod yn afiechyd digon hawdd ei drin.

Mae’n debyg nad oedd y bachgen o bentref Eglwyswrw, Sir Benfro wedi bod at y meddyg na’r deintydd ers pan oedd yn 13 mis oed.

Roedd rhieni Dylan, Julie Seabridge, 46, a’i gŵr Glynn, 47, wedi cael eu holi am esgeuluso plentyn, ond fe gyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron  y llynedd na fyddai camau pellach yn cael eu cymryd yn erbyn y ddau.

Dywedodd yr erlynydd nad oedd Julie Seabridge yn ddigon iach i sefyll ei phrawf ac “nad oedd er budd y cyhoedd” i ddwyn achos yn erbyn Glynn Seabridge.

Pryderon i’r awdurdodau

Yn ôl yr adroddiad, roedd yr awdurdodau wedi clywed pryderon am les y bachgen dros flwyddyn cyn iddo farw.

Dywedodd y Comisiynydd Plant, Sally Holland, ei bod yn “poeni” am blant eraill sy’n cael eu haddysgu yn y cartref ac a allai “lithro o dan y rada”’.

Yn 2012, roedd Llywodraeth Cymru wedi ystyried cyflwyno system o gofrestru a monitro gorfodol i blant sy’n cael eu haddysgu yn y cartref yn 2012 ond, yn dilyn ymgynghoriad, penderfynodd y Gweinidog Addysg i beidio mynd â’r mater ymhellach.

Yn ôl y Llywodraeth bellach, fe fydd canllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi cyn hir.

Mae disgwyl i Gyngor Sir Benfro gyhoeddi ei Adolygiad Ymarfer Plant yn fuan.