Dwy ardal y datblygu (llun - abayoflife.com)
Fe fydd manylion cynlluniau i “drawsnewid” canol dinas Abertawe yn cael eu datgelu heddiw – ac enwau’r ddau gwmni sydd wedi ennill y gwaith.

Dyma’r newid mwya’ ers ailadeiladu’r ddinas ar ôl bomio’r Ail Ryfel Byd, meddai arweinydd Cyngor y Ddinas, Rob Stewart.

Y disgwyl yw y bydd y gwaith yn costio £500 miliwn i ailddablygu dwy ardal fawr ar y naill ochr a’r llall i Heol Ystumllwynarth – ardal Canolfan Siopa Dewi Sant a’r Kingsway a’r safle dinesig ar lan y môr.

Y Cyngor a Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, fydd yn datgelu’r manylion yn ddiweddarach heddiw.

Y manylion

Mae disgwyl y bydd y cynlluniau’n cynnwys swyddfeydd sinema a siopau ar ochr y ddinas ac adnoddau tai a hamdden ar ochr y môr.

Dau ddatblygiad mentrus posib yw sgwâr yn yr awyr tros Heol Ystumllwynarth ei hun, i gysylltu’r ddwy ardal, a thraeth dinesig.

Roedd Cyngor y Ddinas wedi rhoi caniatâd cychwynnol i’r cynlluniau nos Fercher ar ôl gwahodd cynigion gan nifer o gwmnïau tros y misoedd diwetha’.