Kevin Barry Mahoney
Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth dyn 46 o Lansawel, wedi arestio trydydd dyn.
Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Thomas ar ôl i gorff Kevin Barry Mahoney gael ei ddarganfod mewn lôn ger Clwb Gweithwyr Llansawel.
Cafodd dyn 44 oed ei arestio’r bore ma ac mae e’n cael ei holi yn y ddalfa yn Abertawe.
Mae dau ddyn arall ar fechnïaeth yr heddlu wrth i’r ymchwiliad barhau.
Ar ôl i archwiliad post mortem gael ei gynnal, mae’r heddlu’n cynnal profion pellach er mwyn darganfod sut y bu Kevin Mahoney farw.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod y corff wedi’i rannol orchuddio ond bod rhai o ddillad Kevin Mahoney yn dal ar goll.
Mae’r heddlu wedi apelio unwaith eto am wybodaeth am y digwyddiad ac am y dillad sydd ar goll.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.