Noder: Mae’r erthygl hon yn trafod pynciau allai achosi pryder. Mae cymorth ar gael drwy ffonio’r Samariaid ar 116 123.


Dydy’r ystadegau hunanladdiad sydd ar gael ddim yn dangos y darlun llawn, ond mae’n ymddangos nad yw’r pandemig wedi cael fawr o effaith ar ystadegau, yn ôl rheolwr Amser i Siarad.

Daw sylwadau Clare Bailey ar drothwy gweithdy deudydd mewn sgiliau ymyrraeth hunanladdiad yn Galeri Caernarfon ar Fehefin 21 a 22.

Mae LivingWorks ASIST yn dysgu pobol i ddarparu ymyrraeth ac i ddatblygu cynllun diogelwch i gadw rhywun bregus yn ddiogel ac yn fyw.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno yn Saesneg.

“O’r ystadegau sydd ar gael i ni, nid yw’n ymddangos bod y pandemig wedi achosi cynnydd mewn hunanladdiad,” meddai Clare Bailey wrth golwg360.

“Fodd bynnag, effeithiwyd ar y ffordd y mae data’n cael ei gofnodi hefyd gan y pandemig, felly efallai y bydd angen i ni aros am ddata 2022 i ddod drwodd o’r diwedd i gael darlun cliriach.”

Gweithdai

“Mae’r hyfforddiant a gynigiwn yn ymyriad llafar, lle rydym yn gwrando’n astud ac yn ceisio deall sefyllfa pobol eraill,” meddai Clare Bailey wedyn, wrth drafod y gweithdai.

“Yna, rydym yn cefnogi ochr stori bywyd y person sy’n cynnwys y rhesymau pam y gallen nhw fod eisiau byw o hyd neu pam y gallen nhw fod yn ansicr ynghylch marw.

“Yna, gallwn helpu’r person i ganolbwyntio ar gadw’n ddiogel am y tro a chydweithio ar gynllun diogel sy’n tynnu ar y cymorth sydd ar gael yn y gymuned.”

Mae ystadegau’n awgrymu faint o bobol sydd wedi ceisio lladd eu hunain, ond dydyn nhw ddim yn dangos y bobol sy’n ystyried lladd eu hunain na’r rhai wedi goroesi ymgais.

“Roedd 347 o hunanladdiadau cofrestredig yn 2021,” meddai Clare Bailey.

“Mae pob un o’r marwolaethau hynny yn drasiedi fydd wedi effeithio ar nifer fwy o bobol fel aelodau o’r teulu a’r gymuned.

“Yna, mae gennym nifer sylweddol o bobol sydd wedi ceisio lladd eu hunain ond sydd wedi goroesi, ac nad ydyn nhw’n ymddangos yn yr ystadegau – a llawer mwy o bobol sy’n cerdded o gwmpas yn meddwl am hunanladdiad.

“Felly gallwch weld ei bod yn broblem fwy na’r dystiolaeth ystadegol, yn aml mae’n broblem gudd.”

Cymorth

Os ydy rhywun yn rhannu eu meddyliau am fod yn hunanladdol, gall feddwl nad ydyn nhw wir eisiau lladd eu hunain, yn ôl Clare Bailey, sy’n dweud bod llawer o gamau posibl i’w cymryd i helpu pobol sy’n rhannu’r baich.

“Yn aml, pan fydd rhywun yn datgelu eu bod yn meddwl am hunanladdiad, mae’n arwydd eu bod i ryw raddau yn chwilio am ddewis arall yn lle dod â’u bywyd i ben,” meddai.

“Fell, gall fod yn ddefnyddiol dweud wrth rywun eich bod yn gwerthfawrogi eu bod wedi bod yn agored efo chi am deimlo fel hyn.

“Unwaith y daw’n amlwg bod y person wedi bod yn meddwl am hunanladdiad, rydym yn argymell eich bod yn treulio amser yn gwrando’n anfeirniadol, ac yn clywed y stori y tu ôl i’w meddyliau hunanladdol.

“Ceisiwch beidio â defnyddio unrhyw euogrwydd emosiynol neu resymu fel ffordd o geisio eu tynnu allan ohono, gan y gall wneud iddynt deimlo’n waeth.”