Mae adrannau brys mewn ysbytai yng Nghymru “ar y dibyn”, gyda rhai cleifion yn aros am fwy na 24 awr, yn ôl un meddyg blaenllaw.

Rhybuddiodd Dr Robin Roop, o Goleg Brenhinol Meddygaeth Frys, fod problemau ym meysydd recriwtio ymgynghorwyr meddygaeth brys a diffyg gwlâu.

Yn ôl Dr Roop, sy’n bennaeth ar y coleg yng Nghymru, mae adrannau damweiniau brys y wlad “mewn cyflwr difrifol” ac mae problemau yn y system ers tua blwyddyn.

“Mae’r byrddau iechyd wedi dysgu o’r blynyddoedd cynt am bwysau’r gaeaf a’r hyn sydd angen ei wneud, fel cynyddu nifer y gwlâu, ac mae wedi gweithio i ryw raddau,” meddai wrth y BBC.

“Ond rydym yn dal i weld gostyngiad yn nifer y cleifion sy’n cael eu gweld (gan feddygon) mewn da bryd.

“Mae’n golygu dydy staff ddim yn gwneud yr hyn maen nhw wedi’u hyfforddi i wneud ym maes meddygaeth frys. Maen nhw bellach yn gwneud pethau ychwanegol fel gofalu am gleifion am gyfnodau hirach oherwydd yr oedi.”

Rhai yn treulio dros 24 awr yn yr adran frys

Ychwanegodd y meddyg, sy’n ymgynghorydd yn Wrecsam, fod ystadegau’n dangos bod rhai cleifion yn wedi treulio dros 12 awr mewn adran frys, ac eraill, dros 24 awr.

A rhybuddiodd am bwysau ychwanegol yn y gaeaf, fel achosion o ffliw, a allai gwneud y broblem yn waeth.

“Mae pob un adran brys (yng Nghymru) ar y dibyn – rydym mor agos i gleifion yn mynd yn sâl iawn yn ein hadrannau a gallai hynny gael effaith gynyddol a chanlyniadau trychinebus.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth y BBC: “Roedd gostyngiad o 23% yn nifer y bobol a dreuliodd dros 12 awr mewn adrannau brys ym mis Rhagfyr o gymharu â mis Tachwedd, ond rydym yn gwybod bod mwy o waith i wneud.

“Rydym yn disgwyl i bob bwrdd iechyd sicrhau bod ganddynt y staff cywir i sicrhau bod gwasanaethau’n ddiogel, cynaliadwy ac yn sicrhau bod y claf yn cael y profiad gorau posib.”

‘Nid problemau newydd yw’r rhain’

“Dydy’r rhain ddim yn broblemau newydd, ond maen nhw’n broblemau y mae’r llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi methu â mynd i’r afael â nhw, dydy hi ddim yn syndod bod pryder gan y gweithwyr proffesiynol,” meddai Elin Jones AC, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd.

Yn ôl yr AC, byddai cynllun Plaid Cymru i hyfforddi a recriwtio mil o feddygon ychwanegol yn gostwng amseroedd aros i gleifion, ynghyd â chynlluniau i gyfuno gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

“Drwy greu un system symlach, gallwn helpu meddygon a gweithwyr iechyd meddygol i symud cleifion o’r ysbyty ac i ofal cymdeithasol cyn gynted â phosib.”

‘Angen recriwtio rhagor o ymgynghorwyr’

Cydnabyddodd prif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru bod angen recriwtio rhagor o ymgynghorwyr a dywedodd fod y gwasanaeth yn ceisio gwella’r broblem o ddiffyg gwlâu.

“Bydd y gaeaf bob amser yn gyfnod eithriadol, ond rydw i’n cytuno â Robin – mae hyn yn bwysau drwy gydol y flwyddyn yng Nghymru,” meddai Dr Andrew Goodhall wrth raglen Today.

“Yn sicr, o ran ei alwad am yr angen i recriwtio ymgynghorwyr ychwanegol, rwy’n cytuno â hynny – mae Robin a minnau wedi siarad am hyn sawl gwaith – a dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi recriwtio 50% o ymgynghorwyr mewn adrannau damweiniau brys yng Nghymru.”