Dyma’r tro cyntaf mewn dwy flynedd i’r hyder ymysg busnesau bach yng Nghymru ddisgyn i diriogaeth negyddol.

Yn ôl arolwg a gyhoeddwyd heddiw gan Arbenigwyr mewn Busnes (FSB), mae’r hyder ymysg aelodau’r FSB mewn busnesau bach Cymru wedi disgyn i -1.3.

Mae ffigurau’r Mynegai Llais i Fusnesau Bach Cymru yn arddangos arwydd o ddiffyg hyder yng Nghymru, tra bo ffigurau’r DU yn gyffredinol wedi gweld cynnydd.

Cymru yw’r unig ranbarth economaidd yn y DU sy’n arddangos ffigurau negyddol ymysg busnesau bach, gyda’r lefel o hyder wedi bod yn is yng Nghymru na gweddill y DU drwy gydol yr holl chwarteri ers 2010.

Daw’r ffigurau llai na phythefnos wedi i’r Canghellor George Osborne rybuddio am fygythiadau i’r economi yn dilyn ei ymweliad â Chaerdydd.

‘Hollol allweddol i lwyddiant’

 

“Mae’n siomedig i weld y mynegai yn disgyn yn ôl i diriogaeth negyddol, ond mae’n adlewyrchu rhywfaint o’r dystiolaeth anecdotaidd a glywsom gan ein haelodau ledled Cymru yn y misoedd diwethaf,” meddai Janet Jones, Cadeirydd Uned Polisi FSB Cymru.

“Rydym yn gwybod fod busnesau bychain yn hollol allweddol i lwyddiant yr economi Gymreig.”

“Wrth gofio hynny, mae’n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i feithrin a chynnal ein busnesau bach a’u helpu i gyrraedd eu potensial.”

Am hynny, mae’r FSB yn cynnig sefydlu Corff Gweinyddu Busnesau Bach Cymru fel rhan o’u maniffesto ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru.

Esboniodd y byddai hyn yn sicrhau cyllid, cymorth ac ymchwil i fusnesau bach Cymru.

“Rydym yn credu byddai corff o’r fath yn chwarae rhan bwysig wrth roi hwb i sector busnesau bach Cymru.”

‘Cyflogi staff’

Er hyn, fe ddangosodd yr arolwg fod y busnesau bach a ofynnwyd iddyn nhw yn bwriadu creu mwy o swyddi a chynyddu staff yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

Fe ddywedodd 5.7% o’r cwmnïau eu bod yn bwriadu cynyddu nifer y staff yn ystod chwarter cyntaf 2016, a 51% yn dweud eu bod am ehangu eu busnesau yn ystod y flwyddyn nesaf.

“Mae’r ffaith fod busnesau bach yn parhau i gyflogi staff newydd ac yn buddsoddi mewn peirianwaith yn awgrymu y byddwn ni’n gweld twf economaidd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn sydd i ddod,” meddai Rheolwr Polisi FSB Cymru, Dr Rachel Bowen.

Fe ddywedodd y byddai canlyniadau etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai yn dyngedfennol i sefyllfa busnesau bach wrth i’r Llywodraeth nesaf benderfynu ar bolisïau.
“Rydym yn gobeithio y bydd y llunwyr polisi yn ystyried rhai o’r cynigion yr ydym wedi’u rhoi gerbron y Llywodraeth nesaf gan gynnwys symud at ddull gwell o reoleiddio a diwygio trethi busnes. Gallai mesurau o’r fath wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gwmnïau bach, sy’n sylfaen ar gyfer economi Cymru.”