Rhybudd o eira - llun llyfrgell o wefan Trafnidiaeth Cymru
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew ac eira dros Gymru gyfan heddiw lle bydd cawodydd o law trwm yn debygol o droi’n eira.
Eisoes mae problemau ar ffyrdd dros dir uchel mewn rhai ardaloedd, gan gynnwys Bwlch y Gerddinen – y Crimea – ar yr A470 ger Blaenau Ffestiniog.
Mae disgwyl i gawodydd o eirlaw ac eira symud tua’r de ddwyrain ledled Cymru.
Yn ôl y proffwydi tywydd, gallai’r eira fod mor ddwfn â 5-10cm ar dir sy’n uwch na 200 medr, gyda 1-4cm yn bosib ar dir is.
Rhybudd rhew
Mae rhew yn debygol iawn hefyd ac mae rhybudd i yrwyr gymryd gofal a bod yn ymwybodol o amodau gyrru gwael, gan dalu sylw i unrhyw arwyddion bod ffyrdd ar gau.
Bydd y tymheredd dros y wlad yn is na 2C, ac mae’r rhybudd yn ei le am o leiaf 48 awr.