Huw Lewis
Mae’r Gweinidog Addysg wedi dweud fod gan rieni hawl i fynd â’u plant ar wyliau yn ystod y tymor os ydyn nhw’n cael caniatâd gan y prifathro.

Fe wnaeth Huw Lewis ei sylwadau mewn llythyr i benaethiaid addysg Cymru, gan ddweud na ddylai plant gael eu tynnu allan o’r ysgol am fwy na 10 diwrnod oni bai bod “amgylchiadau arbennig”.

Dywedodd ei fod yn awyddus i fod yn glir ar y mater gan fod rhai awdurdodau lleol yn credu nad oedd gwyliau yn ystod tymor i’w ganiatáu o dan unrhyw amod.

Mae rhai rhieni wedi cael eu dirwyo am fynd â’u plant ar wyliau yn ystod y tymor ysgol, pan mae prisiau yn tueddu i fod yn llawer is.

Esbonio’r canllawiau

“Rydw i’n bryderus bod canllawiau rhai awdurdodau lleol neu gonsortia yn awgrymu y dylai penaethiaid … wrthod pob cais am absenoldeb yn ystod y tymor waeth beth yw’r amgylchiadau,” meddai Huw Lewis yn ei lythyr.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Golwg360 y byddan nhw’n ategu’r neges wrth awdurdodau lleol.

“Ysgrifennodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau at awdurdodau lleol a’r consortia addysg rhanbarthol ym mis Rhagfyr ynghylch gwyliau hanner tymor,” meddai’r llefarydd.

“Yn ei lythyr amlinellodd y safbwynt cyfreithiol a holodd am sicrwydd eu bod yn rhoi gwybodaeth glir i rieni.

“Byddwn yn ysgrifennu at Benaethiaid cyn hir ar hyd yr un trywydd.”