Tony Bianchi, un o'r awduron fydd yn cymryd rhan yn y trafodaethau
Mae rhai o gyhoeddwyr llyfrau Cymru wedi trefnu cyfarfod â gwleidyddion yn y Senedd yr wythnos nesaf i’w lobio ar doriadau arfaethedig sy’n wynebu’r Cyngor Llyfrau.
Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru sy’n trefnu’r cyfarfod ddydd Mercher a bydd awduron fel Jon Gower a Tony Bianchi, yn ogystal â chyhoeddwyr Y Lolfa a Gwasg Gomer, yn cymryd rhan.
Y bwriad yw tynnu sylw’r Aelodau Cynulliad at “effaith niweidiol” y toriadau posib ar y diwydiant llyfrau yng Nghymru, yn ôl Garmon Gruffudd o wasg Y Lolfa.
Effaith y toriadau
“Bydd y cyfarfod hwn yn gyfle i ni siarad wyneb yn wyneb a cheisio cyfleu’r effaith bydd [y toriadau] yn ei gael arnon ni fel cyhoeddwyr, a hefyd ar y diwydiant drwyddi draw,” meddai Garmon Gruffudd wrth golwg360.
Un sydd yn methu â bod yn y cyfarfod yw Myrddin ap Dafydd, cyfarwyddwr ar Wasg Carreg Gwalch, ond mae eisoes wedi ysgrifennu at Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad.
Fe rybuddiodd y byddai’r toriadau’n cael effaith ar y diwydiant yn gyffredinol.
‘Colli swyddi’
“Er mai bychan iawn yw cyfanswm grantiau’r Cyngor Llyfrau, mae dosbarthiad eang yr arian yn cynnal llawer o weithwyr hunangyflogedig ym myd dylunio, darlunio, ffotograffiaeth, golygu ac awduro yn ogystal â swyddi argraffwyr, cyhoeddwyr, dosbarthwyr, gwerthwyr a siopwyr,” meddai llythyr Myrddin ap Dafydd.
“Mae awduron yn arbennig yn mynd i ddioddef gan fod llawer yn cynnal eu swyddi drwy weithio ym maes llyfrau a theledu – ac mae S4C eisoes wedi gweld toriadau trymion ers blynyddoedd.”
Fe ddywedodd hefyd y byddai toriadau pellach “yn sicr” yn arwain at “docio sylweddol yn nifer y llyfrau” a bydd y “diwydiant cyfan yn crebachu a swyddi’n cael eu colli”.
Camau nesa’ i’r Cyngor Llyfrau
Bu cyfarfod drwy’r dydd ddoe rhwng y Cyngor a chyhoeddwyr Cymru, yn wyneb toriadau i’w cyllid, ac mae golwg360 wedi cael gwybod y bydd y mater bellach yn mynd i Banel Grantiau Cyhoeddi y Cyngor.
Dywedodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau y bydd “sylwadau’r gweisg yn cael eu bwydo i drafodaethau’r Panel Grantiau Cyhoeddi, fydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf”.
Bydd y panel hwn yn cyfarfod ddydd Iau nesaf, 21 Ionawr i drafod y gweisg Cymraeg a bydd y gweisg Saesneg eu hiaith yn cael eu trafod ar y diwrnod canlynol.
“Yn dilyn cyfarfodydd y paneli, fe fydd y Cyngor yn mynd ati wedyn i gysylltu’n uniongyrchol gyda’r cyhoeddwyr i drafod y dyfarniadau,” meddai Elwyn Jones.
Yn ôl Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, fe allai Cyngor Llyfrau Cymru wynebu toriad o 10.6% yn ystod blwyddyn ariannol 2016-17.
Fe fydd y toriad yn £374,000 o’r gyllideb o £3,526,000, sy’n ostyngiad o dros ddwbl yr hyn mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n ei wynebu, sef 4.7% o’i gyllid.
Carwyn Jones yn amddiffyn y toriadau
Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fynd o flaen ei well heddiw i amddiffyn y toriadau ar y Gymraeg sydd yn y Gyllideb Ddrafft.
Bydd yn mynd gerbron Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad, ac yn ei dystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor, mae’n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod blaenoriaethu gwariant ar y “rhai sydd ei angen fwyaf” yn dilyn toriadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.