Mae Plaid Cymru’n dweud mai “mater i’r Prif Weinidog” Mark Drakeford yw diswyddo Eluned Morgan pe na bai hi’n ymddiswyddo tros fethiant Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, mae gweinidogion Llafur yn gweithredu gyda’r “un haerllugrwydd” â’r Ceidwadwyr, wrth iddyn nhw wrthod ysgwyddo’r cyfrifoldeb am sefyllfa bwrdd iechyd y gogledd.

Mae’n dweud nad oes gan Eluned Morgan “unrhyw awdurdod” bellach, gan alw ar y Prif Weinidog i ddod ag arweinyddiaeth newydd i mewn.

Mae Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru’n cael ei chynnal yn Llanelli ar hyn o bryd.

Cefndir

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ôl o dan fesurau arbennig eto yr wythnos hon, dair blynedd yn unig ers y tro diwethaf i’r Llywodraeth gamu i mewn.

Yn ôl Plaid Cymru, ddylai’r bwrdd iechyd ddim bod wedi dod allan o fesurau arbennig 2020 ac maen nhw’n dweud bod “penderfyniad Eluned Morgan i fychanu a diswyddo Aelodau Annibynnol y bwrdd wedi’i feirniadu’n eang, gyda llawer yn honni mai nhw oedd y targed anghywir”.

Yn ôl aelodau’r Bwrdd, does ganddyn nhw “ddim hyder yng ngafael Llywodraeth Cymru o’r sefyllfa”, ond mae Eluned Morgan yn mynnu nad ei swydd hi yw gwneud hynny.

Fe fu Rhun ap Iorwerth yn galw yr wythnos ddiwethaf ar i Eluned Morgan gamu o’r neilltu.

Ond mae’n dweud y bydd hi’n parhau yn ei swydd “cyhyd â bod gan y Prif Weinidog hyder” ynddi.

‘Colli hyder’

Ond cyn dechrau Cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru, ategodd Rhun ap Iorwerth ei farn fod Eluned Morgan wedi colli hyder y bobol sy’n cael eu gwasanaethu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy’n cwmpasu ei etholaeth yntau ym Môn.

Mae hynny am ei bod hi’n “gwrthod cymryd atebolrwydd”, meddai, a bod rhaid i’r Prif Weinidog “wneud y peth iawn”.

“Mewn democratiaeth, mae’r awdurdod i lywodraethu llif o’r bobol,” meddai Rhun ap Iorwerth, gan ychwanegu ei bod hi “yn amlwg” fod Eluned Morgan wedi colli’r awdurdod hwnnw.

Mae’n galw ar bobol Ynys Môn i “droi eu dadrithiad” gyda Llafur a’r Ceidwadwyr yn “weithredu positif” yn yr etholiad cyffredinol nesaf drwy bleidleisio dros Blaid Cymru.

“Mae pobol Cymru wedi colli ffydd yn y Gweinidog Iechyd,” meddai.

“Dro ar ôl tro, mae hi wedi osgoi craffu ac wedi symud bai ar eraill pan caiff ei herio gyda chanlyniadau trychinebus ei pholisïau ei hun.

“Mae hyn yn arbennig o wir yn y gogledd. Mae cleifion a staff Betsi Cadwaladr yn haeddu gwell gan eu llywodraeth.

“Y lleiaf maen nhw’n ei haeddu yw ymddiheuriad, ond yr hyn sydd ei angen arnom ni i gyd yw i’r llywodraeth gamu i fyny a chymryd cyfrifoldeb am y llanast hwn.

“Mewn democratiaeth, mae’r awdurdod i lywodraethu yn llifo oddi wrth y bobol.

“Mae’n amlwg nad oes gan Eluned Morgan yr awdurdod hwnnw.

“Os nad yw hi’n fodlon cymryd cyfrifoldeb yn awr, dylai’r Prif Weinidog wneud y peth iawn ar ran pobol Cymru, a chael gwared ar ei Weinidog Iechyd.”

‘Arwyddocâd ehangach’

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae arwyddocâd ehangach i’r amharodrwydd ar ran Eluned Morgan i gymryd cyfrifoldeb.

“Fe wnaethon ni frwydro dros ddatganoli er mwyn i ni allu dylunio gwleidyddiaeth oedd yn wahanol i wleidyddiaeth elitaidd San Steffan,” meddai.

“Mae gweinidogion Ceidwadol, a Phrif Weinidogion, wedi cael eu gwawdio, yn gwbl briodol, am eu haerllugrwydd cywilyddus tuag at y cyhoedd.

“Ond yma, gwelwn weinidogion Llafur hefyd yn gweithredu fel pe baent y tu hwnt i feirniadaeth, wedi’u cysgodi rhag craffu.

“Cyn bo hir, bydd pobol Ynys Môn yn cael cyfle i roi dyfarniad ar record y Ceidwadwyr a gweithredoedd Llafur.

“Ethol Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yw’r ffordd orau o droi ein dadrithiad yn weithredu positif dros bobol Ynys Môn.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.