Mae cynnig sy’n cefnogi cyfres o argymhellion i atal a gwrthdroi’r dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ym Mhowys wedi cael ei gefnogi gan gynghorwyr.
Ond mae nifer o newidiadau wedi cael eu hychwanegu at y cynnig, a chafodd pryderon eu mynegi y dylid fod wedi cynnwys “costio” creu nifer o ysgolion Cymraeg newydd yn y sir, yn y cynnig hwnnw.
Daw cynnig Elwyn Vaughan, arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor, yn dilyn cyhoeddi ffigurau’r Cyfrifiad fis Rhagfyr y llynedd, oedd yn dangos bod Powys wedi colli dros 2,600 o siaradwyr Cymraeg rhwng 2011 a 2021.
Fe gwympodd nifer y plant tair i 15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg gan 1,864.
Gwelliant Richard Church
Ychwanegodd Richard Church, cynghorydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Bowys fwy diogel, welliant i’r cynnig oedd yn destun dadl mewn cyfarfod o’r Cyngor ddoe (dydd Iau, Mawrth 2).
Roedd y gwelliant yn “nodi’r dystiolaeth gynyddol fod pobol ddwyieithog yn elwa ar nifer o fanteisio sy’n helpu eu hiechyd, eu sgiliau dysgu a’u ffordd o fyw”.
“Mae’n gwbl hysbys fod y Saeson yn wael am ddysgu ieithoedd, ac mae hynny am fod gormod ohonon ni’n disgwyl i bobol eraill ddysgu ein hiaith ni,” meddai.
“Mae dwyieithrwydd yn rhoi’r fantais i hi o rannu dau ddiwylliant, a chyfleoedd ychwanegol i ddeall gwaith a rhannu – mae’n llythrennol yn ehangu eich meddwl.”
Eglurodd fod perfformiad pobol ddwyieithog mewn profion IQ yn well na pherfformiad pobol uniaith, fod ganddyn nhw well alluoedd gwybyddol, y gallu i ganolbwyntio’n well, ac maen nhw’n fwy tebygol o feddwl yn greadigol.
Gwahoddodd gynghorwyr i ddefnyddio google ar eu cyfrifiaduron i ganfod manteision dwyieithrwydd ac i ddod o hyd i ymchwil academaidd ar y pwnc.
Gwelliannau eraill
Dywedodd Huw Williams, y Cynghorydd Llafur, ei fod yn cefnogi’r cynnig ond ei fod e eisiau gofyn i Lywodraeth Cymru ehangu manteision ARFOR, cynnlun economaidd ieithyddol gwerth £11m yng ngorllewin Cymru i gynnwys Powys gyfan, ac nid dim ond Sir Drefaldwyn.
Roedd Jake Berriman, deilydd y portffolio cynllun ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol, hefyd eisiau cyflwyno gwelliant i newid rhan o’r cynnig i “sicrhau” bod yr iaith Gymraeg yn rhan hanfodol o’r Cynllun Datblygu Lleol (LDP).
“Dylen ni wneud cais fod gweithgor y Cynllun Datblygu Lleol yn ystyried cyflwyno polisi cynllunio priodol i arddangos arwyddion dwyieithog,” meddai.
Cytunodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan i’r diwygiadau bach.
‘Sefydlu tair ysgol uwchradd Gymraeg cyn gynted â phosib’
“Dw i’n cytuno 100% ag egwyddor y cynnig,” meddai’r Cynghorydd Ceidwadol Iain McIntosh.
“Mae un broblem gen i, serch hynny, fod angen i ni sefydlu tair ysgol uwchradd Gymraeg cyn gynted â phosib.
“Dw i ddim yn gwrthwynebu, ond mae angen i ni wybod lle fyddan nhw’n cael eu hadeiladu ac, yn y pen draw, faint fyddan nhw’n ei gostio.”
Nododd fod angen costio cynigion yn llawn a bod “angen eglurder”.
Dywedodd y byddai “hollol o blaid” cynnig wedi’i gostio’n llawn yn cael ei ddychwelyd i’r Cyngor.
“Mae hwn eisoes wedi’i gynnwys o fewn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg gafodd ei gymeradwyo gan y gweinyddiaeth flaenorol a’r un bresennol, a Llywodraeth Cymru,” meddai’r Cynghorydd Elwyn Vaughan.
“Y cyfan rydyn ni’n ei wneud ydy ailadrodd polisi a thynnu sylw at yr angen i weithredu.
“Mae Powys yn dda iawn am ysgrifennu cynlluniau, ond cyflwyno ydy hwn.”
Cwestiynu’r targed o ran siaradwyr Cymraeg
Cafodd y nod yn y cynnig o 16% o staff y Cyngor sy’n siarad Cymraeg ei gwestiynu hefyd.
“Dw i ddim yn meddwl y dylen ni fod yn gosod cwotâu na gwahaniaethu’n bositif gan y gallai olygu na chaiff y person gorau y swydd,” meddai’r Cynghorydd Ceidwadol Peter Lewington.
“Ddylen ni ddim bod yn gorfodi pobol i ddysgu Cymraeg er mwyn ennill bywoliaeth yn yr amserau anodd hyn.”
Cafodd y bleidlais i ychwanegu’r gwelliannau ei derbyn, gyda 46 o bleidleisiau o blaid, dwy yn erbyn a phump yn ymatal.
Yna, cafodd y bleidlais ar y cynnig cyfan ei dderbyn, gyda 49 o bleidleisiau o blaid a thair yn ymatal.