Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ymhlith y rhai sydd wedi cwestiynu penderfyniad Syr Keir Starmer i benodi Sue Gray yn Bennaeth Staff.

Y gwas sifil blaenllaw oedd yn gyfrifol am lunio adroddiad ‘Partygate’, yn dilyn ymchwiliad i bartïon yn Downing Street yn ystod cyfnodau clo Covid-19.

Arweiniodd yr helynt maes o law at ymadawiad Boris Johnson, oedd yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ar y pryd.

Mae beirniaid bellach yn dadlau bod ei phenodiad i’w swydd newydd gyda’r Blaid Lafur yn codi amheuon ynghylch pa mor ddiduedd oedd ei hadroddiad i helynt y partïon a pha mor ddiduedd yw’r Gwasanaeth Sifil.

Yn dilyn ei phenodiad, mae’r Ceidwadwyr wedi cadarnhau ei bod hi wedi gadael ei swydd yn uwch-swyddog yn yr Adran Codi’r Gwastad a Thai.

Yn ôl y Blaid Lafur, fe fu trafodaethau â hi ynghylch y swydd ers ychydig fisoedd, ond fe ddechreuon nhw “ymhell” ar ôl i’r ymchwiliad ddod i ben ac ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi fis Mai y llynedd.

‘Cam cywilyddus’

Yn ôl Andrew RT Davies, mae penderfyniad Syr Keir Starmer i benodi Sue Gray yn “gam cywilyddus”.

“Yn ei rôl flaenorol, roedd y canfyddiad o ddidueddrwydd yn allweddol,” meddai.

“Bydd derbyn y fath rôl mor wleidyddol yn arwain nifer i gwestiynu a all y canfyddiad hwnnw fod bellach.”