Mae sylwadau cynghorydd ym Môn wrth gymharu colli cartrefi a’r iaith Gymraeg â’r hyn ddigwyddodd i Amerindiaid wedi arwain at ddadl fywiog.

Roedd y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones yn siarad yn ystod dadl ar ail dai yng nghyfarfod cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn.

Roedd aelodau’n ystyried a ddylid rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer ymestyn tŷ yn Y Fron yn Aberffraw.

Yn ystod cyfarfod yn Llangefni ddydd Mercher (Ionawr 18), roedd Arfon Wyn, Cynghorydd Aberffraw, wedi gwneud araith angerddol ynghylch effaith ail gartrefi.

Wedi hynny y daeth sylwadau dadleuol Robert Llewelyn Jones, cynrychiolydd Parc a’r Mynydd.

Dywedodd ei fod yn credu y byddai estyniad ar Dinas Bach, Rhif 5 Y Fron “heb amheuaeth” yn cael ei ddefnyddio fel tŷ haf, gan alw am wrthod y cynlluniau.

Polisi cynllunio

Roedd y mater eisoes wedi dod gerbron cynllunwyr dair gwaith, ac wedi arwain at 33 o wrthwynebiadau, ond dim ond ar sail polisi cynllunio roedd modd ystyried y cais, ac fe wnaeth e fodloni’r rheiny.

Daeth swyddogion cynllunio i’r casgliad fod y cynnig yn “dderbyniol”, ar ôl bod yn cydweithio â’r sawl oedd wedi gwneud cais am flwyddyn.

Cafodd y tŷ ei restru fel preswylfa C3 (prif neu unig gartref), ac roedd gan y perchennog yr hawl i’w newid o C3 i C5 (preswylfeydd ar wahân i brif neu unig gartref) neu C6 (ar gael am gyfnod byr) heb ganiatâd cynllunio.

Doedd dim modd asesu at ba ddefnydd fyddai’r eiddo’n cael ei ddefnyddio yn y dyfodol.

Gwrthwynebiad a phryderon

Roedd y Cynghorydd Arfon Wyn wedi mynegi pryderon am effaith ail dai a thai haf ar Aberffraw.

Roedd yn poeni y gallai’r pentref fod yn “Rhosneigr arall” a gwagio yn ystod misoedd y gaeaf.

Roedd y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones wedi annog cynghorwyr i “edrych ar y darlun mawr” mewn pentrefi ym Môn, gan ddisgrifio sut roedden nhw’n ceisio “… rhoi cynllun at ei gilydd i gadw’r llefydd hyn yn fyw er mwyn i’r Gymraeg gael ffynnu er lles pobol leol”.

Fe wnaeth e gymharu’r sefyllfa â helynt Amerindiaid, gan alw am ystyried “… yr hyn ddigwyddodd yn America, pan aeth y bobol wyn allan yno a doedd dim ffordd i’r Indiaid gynnal eu ffordd o fyw”.

Wrth alarnadu am golli’r Gymraeg, dywedodd ei fod wedi byw yn Rhosneigr “yn llanc yn ystod y Rhyfel”.

“Fedra i ddim cymharu Rhosneigr rŵan efo’r hyn oedd o bryd hynny.

“Roeddwn i yno am dair blynedd, pobol leol oedden nhw i gyd, mae pethau wedi newid.

“Does fawr o Gymraeg i’w chlywed yn y siopau yno, nac yn unlle arall bellach.”

Mae cannoedd o sylwadau wedi cael eu gadael ar dudalennau Facebook y Daily Post a North Wales Live yn ymateb i’r stori.