Mae nifer y plant sy’n cael eu rhoi mewn llety dros dro yng Nghymru wedi cynyddu gan 59% dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae ffigurau Llywodraeth Cymru yr wythnos hon yn dangos bod 475 o blant dibynnol dan 16 oed wedi’u nodi’n ddigartref yn ystod mis Hydref y llynedd, a’u rhoi mewn llety dros dro – sy’n gynnydd o 59%, neu 299 o blant, ers mis Hydref 2020.
Yn gyffredinol, gan gynnwys oedolion, nododd 1,567 o bobol ledled Cymru eu bod yn ddigartref, a chawson nhw eu rhoi mewn llety dros dro, sy’n 591 yn fwy nag ym mis Awst 2020.
Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi mynegi ei phryder ynghylch y ffigurau, gan ddweud y gallai costau byw cynyddol fod yn gorfodi mwy o bobol i ddigartrefedd a bod cynnydd mor ddramatig yn nifer y plant sy’n ddigartref yn peri pryder arbennig.
Mae data blaenorol gan Lywodraeth Cymru wedi dangos bod nifer yr aelwydydd a oedd dan fygythiad o ddigartrefedd yn y flwyddyn 2021-22 yn 9,228, sy’n cynrychioli cynnydd o 27% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gymryd camau i atal plant ac oedolion rhag mynd yn ddigartref, gan gynnwys darparu niferoedd uwch o stoc tai cymdeithasol ar gyfradd gyflymach.
‘Pryder mawr’
“Mae’r cynnydd yn y ffigurau hyn yn peri cryn bryder, ond y cynnydd serth yn nifer y plant sy’n cyflwyno eu hunain yn ddigartref sy’n peri pryder mawr i mi,” meddai Jane Dodds.
“Mae pwysau biliau uchel a chwyddiant cynyddol ac incwm isel yng Nghymru ochr yn ochr â diffyg gweithredu gan y Blaid Geidwadol wedi dod â phobol a theuluoedd i’r ymylon.
“Mae angen i ni nawr weld gweithredu brys gan Lywodraeth Lafur Cymru i sicrhau bod mwy o dai cymdeithasol ar gael, mae polisïau fel clampio i lawr ar ail gartrefi wedi’n cael ni mor bell â hyn, ond nid yw’n newid y ffaith bod prinder dybryd o dai, tai cymdeithasol ac arferol yng Nghymru.
“Mae angen i ni hefyd weld Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn codi budd-daliadau tai.
“Nid oes yr un plentyn yn haeddu bod yn ddigartref ac mae gan bawb yr hawl i le sefydlog i fyw ynddo a bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn parhau i ymgyrchu i gael yr hawl honno wedi’i hymgorffori mewn deddfwriaeth yng Nghymru.”