Does dim lle mewn bywyd cyhoeddus i ddirmygu trethdalwyr, yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wrth ymateb i ddadl dreth y cyn-Ganghellor Nadhim Zahawi.

Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i faterion treth cadeirydd presennol y Blaid Geidwadol, ac mae galwadau arno i ymddiswyddo ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod wedi talu dirwy i Adran Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC) am drethi gwerth miliynau o bunnoedd oedd heb eu talu pan oedd yn Ganghellor.

Wrth gyfeirio’r mater at ei gynghorydd moesau annibynnol, dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak bod yna “ gwestiynau yn amlwg angen eu hateb yn yr achos hwn”.

Mewn datganiad, dywedodd Nadhim Zahawi ei fod yn “hyderus” ei fod wedi “ymddwyn yn briodol drwy gydol” y broses.

“Fe wnaeth Nadhim Zahawi amddifadu’r pwrs cyhoeddus rhag miliynau o bunnoedd mewn trethi pan oedd e’n Ganghellor y Trysorlys,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

“Ni ddylid cael lle mewn bywyd cyhoeddus i’r fath ddirmyg tuag at drethdalwyr.

“Mae arweinyddiaeth Sunak yn edrych llawn mor llwgr ac anghymwys ag un Johnson.”

‘Amser am etholiad cyffredinol’

“Fe wnaeth Sunak addo gonestrwydd ac atebolrwydd ar risiau Rhif 10,” meddai Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, ar Twitter.

“Nid yn unig y mae e wedi cael dirwy, ond mae Zahawi wedi cael ei ddirwyo hefyd.

“Mae’n amser iddyn nhw gyd fynd.

“Mae’n amser am etholiad cyffredinol.”

Cafodd Rishi Sunak ei ddirwyo’r wythnos ddiwethaf, ar ôl i fideo ohono’n teithio mewn car heb wregys diogelwch ddod i’r amlwg.

Y ddadl

Bydd Nadhim Zawahi yn parhau i fod yn gadeirydd y Blaid Geidwadol tra bod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo.

Ddydd Sadwrn (Ionawr 21), fe wnaeth y cyn-Ganghellor gadarnhau ei fod wedi talu i setlo dadl gydag Adran Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi.

Mae lle i gredu bod y ddadl wedi’i datrys rhwng Ionawr a Medi y llynedd, pan oedd yn Ganghellor, a bod cyfanswm yr hyn gafodd ei dalu gan Zawahi’n ryw £5m, gan gynnwys y ddirwy.

Fe wnaeth e ddisgrifio’r “camgymeriad” fel un “diofal yn hytrach nag un bwriadol”.

Wrth gadarnhau y bydd Sir Laurie Magnus, ymgynghorydd annibynnol Rishi Sunak ar faterion gweinidogion, yn cwblhau ymchwiliad dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wrth ohebwyr fod “gonestrwydd ac atebolrwydd yn bwysig iawn i mi, ac yn amlwg mae cwestiynau angen eu hateb yn yr achos hwn”.

“Dyna pam fy mod wedi gofyn i’n hymgynghorydd annibynnol fynd i wraidd popeth, ac ymchwilio i’r mater yn llawn a dod o hyd i’r ffeithiau a chynnig cyngor i mi ar gydymffurfiaeth Nadhim Zahawi â’r côd gweinidogol,” meddai.